2 Tymothiws 4
4
Y iiij Cytpen
1Myfy a dystiolaytha gar bron duw: ar arglwydd iesu grist rhwn a farna r byw ar meirw: ar eu ddefodiad y fewn eu dyrnas: 2pregetha r gair: bydd ddyfal, [[mewn amser ag allan o amser]] pen fo madwys a phen ni bo madws, gwahardda, kyrydda, kynghora, drwy bob ymynedd ag addysc: 3Cans fo ddaw amser: pan nas goddefant y gwir (iachus) addysc eithr ar ol eu trachwant eu hûn (yrhai a font eu klystiaû yn merwino) kydgynnill vddynt i hunain athrawon a wnant: 4ag a ddiddyfnant eu klystiaû oddiwrth y gwirionedd: ag a ymchwelant at chwedlaû. 5Eithr tydy bydd ddysceûlûs ymhob peth goddau boen [[kyflowna waith efangylwr]] Gwna [hyd y pen] waith efangylwr kyflowna dy swydd hyd yr eitha, [bydd ddisimbl] 6Cans myfi a offrymmir, a chyfagos ydyw famser i ymadaw: 7myfy ymwenais ymwaniad orchestol: mi a ddibennais fynghwrs: y ffydd a gedwais ag or diwedd: 8may yn stor i myfy goron kyfiownedd: rhon a rydd yr arglwydd (sydd frowdr kyfion) i mi yn y dydd hwnw nid i myfi yn vnig: eithr i gwbl oll ar a garant eu ddefodiad ef: 9bryssia i ddyfod attafi: 10cans Demas am gwrthodes i ai serch ar y byd yma: ag ayth i tesselonica: ag ayth Cressens i galasia a thytws i dalmasia: 11yn vnig lucas sydd gyda myfy: kymer marcûs a dug ef gida thi: ef sydd broffidiol i myfi i wasneûthû: 12mi a ddanfonais tychycws i ephesws: 13y gochyl a adewais i yn troada gida Carpws pen ddelych dwg gyda thi ar llyfrey ag yn henwedig yrhai parchement 14Alexander y go efydd a wnaeth i mi lawer o ddrwg: telid yr arglwydd iddo ar ol eu weithredoedd: 15yrhwn gochel dithaû: Cans fo worthnebodd eyn geiriaû ni yn fawr: 16yn yr ymddiffin kyntaf ym: ni safodd neb gyda mi eithr pawb am gwrthodes: ytolwg i ddûw nas kyfrifer vddynt: 17Eithr hyn yr arglwyr a safodd gyda mi: ([[mal]] wedi ei ddileu) ag am nerthawdd mal i bai trwy fyngwaith i ddigon kyflawn pregeth: ag i gallai yr holl bobloedd gaffael klowed: myfy a ddiengais o safn y llew: 18Ar arglwydd am ymddiffin o ddiwrth pob gorchwyl drwg ag am keidw yw nefawl dyrnas, ir hwn i bo gogoniant yn oes oysoedd amen: 19Annerch prysca ag aquyla a theulû onesyphorws: 20Erastws a dariodd ynghorynthia myfy a adewais trophynws yn myleta yn glaf: 21brysya i ddyfod kyn y gayaf i may eubulws yn erchi dannerch a pruwdens a lynws, Clawdya ar holl frodyr, 22yr arglwydd iesu grist a fo gydath ysbryd: Gras a fo gyda chwi Amen.
Yr ail epystyl yma at tymothiws a ddanfonwyd
o rufain pan ddycpwyd pawl ailwaith gar
bron yr emperwr nero.
انتخاب شده:
2 Tymothiws 4: RDEB
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Epistolau Bugeiliol gan Esgob Richard Davies. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.