Genesis 7
7
1Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Noa, Dos di, a’th holl dŷ i’r arch: canys tydi a welais i yn gyfiawn ger fy mron i yn yr oes hon. 2O bob anifail glân y cymeri gyda thi bob yn saith, y gwryw a’i fenyw; a dau o’r anifeiliaid y rhai nid ydynt lân, y gwryw a’i fenyw: 3O ehediaid y nefoedd hefyd, bob yn saith, yn wryw ac yn fenyw, i gadw had yn fyw ar wyneb yr holl ddaear. 4Oblegid wedi saith niwrnod eto, mi a lawiaf ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos: a mi a ddileaf oddi ar wyneb y ddaear bob peth byw a’r a wneuthum i. 5A Noa a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD iddo. 6Noa hefyd oedd fab chwe chan mlwydd pan fu’r dyfroedd dilyw ar y ddaear.
7A Noa a aeth i mewn, a’i feibion, a’i wraig, a gwragedd ei feibion gydag ef, i’r arch, rhag y dwfr dilyw. 8O anifeiliaid glân, ac o anifeiliaid y rhai nid oeddynt lân, o ehediaid hefyd, ac o’r hyn oll a ymlusgai ar y ddaear, 9Yr aeth i mewn at Noa i’r arch bob yn ddau, yn wryw ac yn fenyw, fel y gorchmynasai DUW i Noa. 10Ac wedi saith niwrnod y dwfr dilyw a ddaeth ar y ddaear.
11Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noa, yn yr ail mis, ar yr ail dydd ar bymtheg o’r mis, ar y dydd hwnnw y rhwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri’r nefoedd a agorwyd. 12A’r glaw fu ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos. 13O fewn corff y dydd hwnnw y daeth Noa, a Sem, a Cham, a Jaffeth, meibion Noa, a gwraig Noa, a thair gwraig ei feibion ef gyda hwynt, i’r arch; 14Hwynt, a phob bwystfil wrth ei rywogaeth, a phob anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear wrth ei rywogaeth, a phob ehediad wrth ei rywogaeth, pob aderyn o bob rhyw. 15A daethant at Noa i’r arch bob yn ddau, o bob cnawd a’r oedd ynddo anadl einioes. 16A’r rhai a ddaethant, yn wryw a benyw y daethant o bob cnawd, fel y gorchmynasai DUW iddo. A’r ARGLWYDD a gaeodd arno ef. 17A’r dilyw fu ddeugain niwrnod ar y ddaear; a’r dyfroedd a gynyddasant, ac a godasant yr arch, a hi a godwyd oddi ar y ddaear. 18A’r dyfroedd a ymgryfhasant, ac a gynyddasant yn ddirfawr ar y ddaear; a’r arch a rodiodd ar wyneb y dyfroedd. 19A’r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaear, a gorchuddiwyd yr holl fynyddoedd uchel oedd tan yr holl nefoedd. 20Pymtheg cufydd yr ymgryfhaodd y dyfroedd tuag i fyny: a’r mynyddoedd a orchuddiwyd. 21A bu farw pob cnawd a ymlusgai ar y ddaear, yn ehediaid, ac yn anifeiliaid, ac yn fwystfilod, ac yn bob rhyw ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear, a phob dyn hefyd. 22Yr hyn oll yr oedd ffun anadl einioes yn ei ffroenau, o’r hyn oll oedd ar y sychdir, a fuant feirw. 23Ac efe a ddileodd bob sylwedd byw a’r a oedd ar wyneb y ddaear, yn ddyn ac yn anifail, yn ymlusgiaid, ac yn ehediaid y nefoedd; ie, dilewyd hwynt o’r ddaear: a Noa a’r rhai oedd gydag ef yn yr arch, yn unig, a adawyd yn fyw. 24A’r dyfroedd a ymgryfhasant ar y ddaear ddeng niwrnod a deugain a chant.
اکنون انتخاب شده:
Genesis 7: BWMA
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 1955, 2018
© British and Foreign Bible Society 1955, 2018