S. Luc 3
3
1Ac yn y bymthegfed flwyddyn o ymherodraeth Tiberius Cesar, Pontius Pilat yn rhaglaw Iwdea, a Herod yn detrarch a Philip ei frawd yn detrarch Itwrea a gwlad Trachonitis, 2a Lusanius yn detrarch Abilene, yn amser yr archoffeiriaid Chanan a Caiaphas, daeth gair Duw at Ioan fab Zacariah yn yr anialwch. 3A daeth Efe i’r holl oror ynghylch yr Iorddonen, gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau, 4fel yr ysgrifenwyd yn llyfr geiriau Eshaiah y prophwyd,
“Llef un yn llefain
Yn yr anialwch parottowch ffordd Iehofah,
Gwnewch yn uniawn Ei lwybrau Ef.
5Pob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir,
A bydd y gŵyr-geimion yn uniawn, a’r geirwon yn ffyrdd gwastad;
6A gwel pob cnawd iachawdwriaeth Duw.”
7Dywedodd, gan hyny, wrth y torfeydd oedd yn dyfod allan i’w bedyddio ganddo, Eppil gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd? 8Dygwch, gan hyny, ffrwythau teilwng o edifeirwch, ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Megis tad y mae genym Abraham, canys dywedaf wrthych, Abl yw Duw o’r cerrig hyn i godi plant i Abraham. 9Ac eisoes hefyd y fwyall a osodwyd at wreiddyn y preniau: pob pren, gan hyny, nad yw’n dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac i’r tân y’i bwrir. 10Ac ymofynodd y torfeydd ag ef, gan ddywedyd, Pa beth, gan hyny, a wnawn ni? 11A chan atteb, dywedodd wrthynt, Yr hwn sydd a chanddo ddwy bais, cyfranned â’r hwn nad oes ganddo; a’r hwn sydd a chanddo fwyd, yn y cyffelyb fodd gwnaed efe. 12A daeth hefyd dreth-gymmerwyr i’w bedyddio, a dywedasant wrtho, Athraw, pa beth a wnawn? 13Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ddim mwy na’r hyn a osodwyd i chwi, na ddirgeisiwch. 14Ac ymofyn ag ef a wnaeth y rhai yn milwrio, gan ddywedyd, Pa beth a wnawn ninnau hefyd? A dywedodd wrthynt, Na fyddwch draws wrth neb, ac na cham-achwynwch: a byddwch foddlawn i’ch cyflogau.
15Ac wrth ddisgwyl o’r bobl, ac ymresymmu, bawb o honynt yn eu calonnau am Ioan, ai efe, ysgatfydd, oedd y Crist, 16attebodd Ioan i bawb o honynt, gan ddywedyd, Myfi, yn wir, â dwfr yr wyf yn eich bedyddio chwi, ond dyfod y mae un cryfach na myfi, i’r Hwn nid wyf deilwng i ddattod carrai Ei esgidiau. 17Efe a’ch bedyddia chwi â’r Yspryd Glân ac â thân: gwyntyll yr Hwn sydd yn Ei law i lwyr-lanhau Ei lawr-dynu, ac i gasglu’r gwenith i’w ysgubor; ond yr ûs a lwyr-lysg Efe â thân anniffoddadwy.
18A llawer o bethau eraill yn wir, gan eu cynghon hwynt, a efengylodd efe iddynt: 19a Herod y tetrarch, wedi ei argyhoeddi ganddo am Herodias, gwraig ei frawd, 20ac am yr holl bethau drwg a wnaethai Herod, a chwanegodd hyn hefyd at y cwbl, sef cau o hono Ioan yngharchar.
21A bu, pan fedyddiasid yr holl bobl, ac yr Iesu wedi Ei fedyddio ac yn gweddïo, 22yr agorwyd y nef, a disgynodd yr Yspryd Glân mewn rhith corphorol, fel colommen, Arno; a llais o’r nef a ddaeth,
Tydi yw Fy Mab anwyl, Ynot Ti y’m boddlonwyd.
23A’r Iesu Ei Hun, wrth ddechreu, oedd ynghylch deng mlwydd ar ugain oed, mab (fel y tybid) i Ioseph fab Eli, 24fab Matthat, fab Lefi, fab Melci, fab Ianna, fab Ioseph, 25fab Mattathias, fab Amots, fab Naum, fab Esli, fab Naggai, 26fab, Maath, fab Mattathias, fab Shemei, fab Ioseph, 27fab Iwda, fab Ioanna, fab Rhesa, fab Zorobabel, fab Shalathiel, 28fab Neri, fab Melci, fab Adi, fab Cosam, fab Elmodam, 29fab Er, fab Iose, fab Eliezer, fab Iorim, fab Matthat, 30fab Lefi, fab Shimeon, fab Iwda, fab Ioseph, fab Ionan, 31fab Eliacim, fab Melea, fab Mainan, fab Mattatha, 32fab Nathan, fab Dafydd, fab Ieshe, fab Obed, fab Booz, 33fab Salmon, fab Naashon, fab Aminadab, fab Aram, fab Etsron, 34fab Pharets, fab Iwda, fab Iacob, fab Itsaac, fab Abraham, 35fab Thara, fab Nachor, fab Sarwg, fab Ragan, 36fab Phalec, fab Heber, fab Shala, fab Cainan, fab Arphacshad, 37fab Shem, fab Noe, fab Lamec, fab Methwshala, fab Enoc, 38fab Iared, fab Maleleel, fab Cain, fab Enosh, fab Sheth, fab Adam, fab Duw.
Currently Selected:
S. Luc 3: CTB
Tõsta esile
Share
Kopeeri

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.