1
Luc 6:38
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004
Rhowch, ac fe roir i chwi; rhoir yn eich côl fesur da, wedi ei wasgu i lawr a'i ysgwyd ynghyd nes gorlifo; oherwydd â'r mesur y rhowch y rhoir i chwi yn ôl.”
Compare
Explore Luc 6:38
2
Luc 6:45
Y mae'r dyn da yn dwyn daioni o drysor daionus ei galon, a'r dyn drwg yn dwyn drygioni o'i ddrygioni; oherwydd yn ôl yr hyn sy'n llenwi ei galon y mae ei enau yn llefaru.
Explore Luc 6:45
3
Luc 6:35
Nage, carwch eich gelynion a gwnewch ddaioni a rhowch fenthyg heb ddisgwyl dim yn ôl. Bydd eich gwobr yn fawr a byddwch yn blant y Goruchaf, oherwydd y mae ef yn garedig wrth yr anniolchgar a'r drygionus.
Explore Luc 6:35
4
Luc 6:36
Byddwch yn drugarog fel y mae eich Tad yn drugarog.
Explore Luc 6:36
5
Luc 6:37
“Peidiwch â barnu, ac ni chewch eich barnu. Peidiwch â chondemnio, ac ni chewch eich condemnio. Maddeuwch, ac fe faddeuir i chwi.
Explore Luc 6:37
6
Luc 6:27-28
“Ond wrthych chwi sy'n gwrando rwy'n dweud: carwch eich gelynion, gwnewch ddaioni i'r rhai sy'n eich casáu, bendithiwch y rhai sy'n eich melltithio, gweddïwch dros y rhai sy'n eich cam-drin.
Explore Luc 6:27-28
7
Luc 6:31
Fel y dymunwch i eraill wneud i chwi, gwnewch chwithau yr un fath iddynt hwy.
Explore Luc 6:31
8
Luc 6:29-30
Pan fydd rhywun yn dy daro di ar dy foch, cynigia'r llall iddo hefyd; pan fydd un yn cymryd dy fantell, paid â'i rwystro rhag cymryd dy grys hefyd. Rho i bawb sy'n gofyn gennyt, ac os bydd rhywun yn cymryd dy eiddo, paid â gofyn amdano'n ôl.
Explore Luc 6:29-30
9
Luc 6:43
“Oherwydd nid yw coeden dda yn dwyn ffrwyth gwael, ac nid yw coeden wael chwaith yn dwyn ffrwyth da.
Explore Luc 6:43
10
Luc 6:44
Wrth ei ffrwyth ei hun y mae pob coeden yn cael ei hadnabod; nid oddi ar ddrain y mae casglu ffigys, ac nid oddi ar lwyni mieri y mae tynnu grawnwin.
Explore Luc 6:44
Home
Bible
Plans
Videos