“Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn.” Ac wedi Ei ddwyn Ef i fynu, dangosodd Iddo holl deyrnasoedd y byd mewn munud o amser. A dywedodd diafol Wrtho, I Ti y rhoddaf yr awdurdod hon i gyd ac eu gogoniant; canys i mi eu traddodwyd, ac i bwy bynnag yr ewyllysiaf y rhoddaf hi; os Tydi, gan hyny, a ymochreini o’m blaen, bydd yr oll yn eiddo Ti. A chan atteb iddo, dywedodd yr Iesu, Ysgrifenwyd, “I Iehofah dy Dduw yr ymochreini, ac Ef yn unig a wasanaethi.”