YouVersion Logo
Search Icon

1 Samuel 4

4
1A byddai Samuel yn rhannu’r neges gydag Israel gyfan.
Y Philistiaid yn dwyn yr Arch
Dyma Israel yn mynd i ryfel yn erbyn y Philistiaid. Roedden nhw’n gwersylla yn Ebeneser, tra oedd y Philistiaid yn gwersylla yn Affec.#4:1 Ebeneser Affec Roedd Ebeneser tua 2 filltir i’r dwyrain o Affec. 2Dyma’r Philistiaid yn trefnu eu byddin yn rhengoedd. Dechreuodd yr ymladd, a dyma Israel yn colli. Cafodd tua pedair mil o’u dynion eu lladd. 3Pan ddaeth gweddill y fyddin yn ôl i’r gwersyll, dyma arweinwyr Israel yn dechrau holi, “Pam wnaeth yr ARGLWYDD adael i’r Philistiaid ein curo ni? Gadewch i ni ddod ag Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yma aton ni o Seilo. Os bydd hi’n mynd gyda ni, bydd yn ein hachub ni o afael y gelyn!” 4Felly dyma nhw’n anfon i Seilo i nôl Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD hollbwerus, sy’n eistedd uwchben y cerwbiaid. Roedd meibion Eli, Hoffni a Phineas, yno gyda’r Arch.
5Pan gyrhaeddodd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD y gwersyll, dyma pawb yn bloeddio gweiddi mor uchel roedd fel petai’r ddaear yn crynu! 6Pan glywodd y Philistiaid y sŵn, roedden nhw’n holi, “Pam maen nhw’n bloeddio fel yna yng ngwersyll yr Hebreaid?” Yna dyma nhw’n sylweddoli fod Arch yr ARGLWYDD wedi dod i’r gwersyll. 7Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Mae hi ar ben arnon ni,” medden nhw. “Mae’r duwiau wedi dod i’w gwersyll nhw. Does dim byd fel yma wedi digwydd o’r blaen. 8Mae hi ar ben arnon ni go iawn. Pwy sy’n mynd i’n hachub ni o afael y duwiau cryfion yma? Dyma’r duwiau wnaeth daro’r Eifftiaid mor ofnadwy yn yr anialwch. 9Philistiaid, rhaid i chi fod yn ddewr! Byddwch yn ddynion! Neu byddwch chi’n mynd yn gaeth i’r Hebreaid fel buon nhw yn gaeth i chi. Byddwch yn ddynion, ac ymladd!”
10Felly dyma’r Philistiaid yn ymosod ar Israel. Collodd Israel y frwydr, a dyma’r fyddin i gyd yn dianc am adre. Roedd lladdfa fawr. Cafodd tua tri deg mil o filwyr traed Israel eu lladd. 11Cafodd Arch Duw ei chipio hefyd, a chafodd Hoffni a Phineas, meibion Eli, eu lladd.#1 Samuel 2:34
Eli yn marw
12Y diwrnod hwnnw dyma ddyn o lwyth Benjamin yn rhedeg o’r frwydr a chyrraedd Seilo.#4:12 o’r frwydr … Seilo Pellter o 18 milltir. Roedd wedi rhwygo’i ddillad a rhoi pridd ar ei ben. 13Pan gyrhaeddodd Seilo, roedd Eli’n eistedd ar gadair ar ochr y ffordd yn disgwyl am newyddion. Roedd yn poeni’n fawr am Arch Duw. Daeth y dyn i’r dre a phan ddwedodd beth oedd wedi digwydd dyma pawb yn dechrau wylo yn uchel. 14Pan glywodd Eli yr holl sŵn, gofynnodd, “Beth ydy’r holl gyffro yna?” A dyma’r dyn yn brysio draw i ddweud yr hanes wrth Eli 15(oedd yn naw deg wyth oed ac yn ddall). 16“Dw i wedi dianc o’r frwydr,” meddai’r dyn, “gwnes i ddianc oddi yno heddiw.” “Sut aeth pethau, machgen i?” holodd Eli. 17A dyma’r negesydd yn ateb, “Mae Israel wedi ffoi o flaen y Philistiaid, ac mae llawer iawn wedi cael eu lladd. Mae dy ddau fab di, Hoffni a Phineas, wedi’u lladd, ac mae Arch Duw wedi cael ei chipio.” 18Pan glywodd Eli am Arch Duw syrthiodd wysg ei gefn oddi ar ei gadair wrth ymyl y giât. Am ei fod mor hen, ac yn ddyn mawr trwm, torrodd ei wddf a marw. Roedd wedi arwain Israel am bedwar deg o flynyddoedd.
Ichabod
19Roedd merch-yng-nghyfraith Eli, sef gwraig Phineas, yn disgwyl plentyn ac yn agos iawn i’w hamser. Pan glywodd hi’r newyddion fod Arch Duw wedi’i chipio a bod ei thad-yng-nghyfraith a’i gŵr wedi marw, plygodd yn ei dyblau am fod y plentyn yn dechrau dod. Ond roedd y poenau yn ormod iddi. 20Pan oedd hi ar fin marw, dwedodd y merched oedd gyda hi, “Paid bod ag ofn, rwyt ti wedi cael mab!” Ond wnaeth hi ddim ymateb na chymryd unrhyw sylw. 21A dyma hi’n rhoi’r enw Ichabod#4:21,22 Ichabod Ystyr Ichabod ydy “Ble mae’r ysblander?” i’r babi. “Mae ysblander Duw wedi gadael Israel,” meddai (am fod Arch Duw wedi’i chipio a’i thad-yng-nghyfraith a’i gŵr wedi marw). 22“Mae ysblander Duw wedi gadael Israel, achos mae Arch Duw wedi’i chipio,” meddai.

Currently Selected:

1 Samuel 4: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in