YouVersion Logo
Search Icon

Matthew Lefi 5:3-12

Matthew Lefi 5:3-12 CJW

Dedwydd y tylodion yn yr ysbryd; canys teyrnas y Nefoedd sydd eiddynt! Dedwydd y rhai à alarant; canys hwy á gant ddyddanwch! Dedwydd y rhai llariaidd; canys hwy á etifeddant y tir! Dedwydd y rhai à newynant, ac á sychedant am gyfiawnder; canys hwy à ddiwellir! Dedwydd y trugarogion; canys hwy á gant drugaredd! Dedwydd y rhai pur o galon; canys hwy á welant Dduw! Dedwydd y tangnefeddwyr; canys hwy á elwir yn feibion i Dduw! Dedwydd y rhai á ddyoddefant erlidigaeth o achos cyfiawnder; canys teyrnas y nefoedd sydd eiddynt! Dedwydd fyddwch, pan ych difenwant, ac ych erlidiant; ac ych camgyhuddant, o’m hachos i, o bob peth drwg! Llawenewch a gorfoleddwch, canys mawr yw eich gobr yn y nef; canys felly yr erlidiwyd y Proffwydi, y rhai fuont o’ch blaen chwi.