YouVersion Logo
Search Icon

Matthew Lefi 3:1-6

Matthew Lefi 3:1-6 CJW

Yn y dyddiau hyny yr ymddangosodd Iöan y Trochiedydd, yr hwn á gyhoeddai yn niffeithwch Iuwdëa, gàn ddywedyd, Diwygiwch, canys y mae Teyrnasiad y Nefoedd yn agosâu. Oblegid hwn yw efe, am yr hwn y dywed Isaia y Proffwyd yn y geiriau hyn, “Llef un yn cyhoeddi yn y diffeithwch, Parotowch ffordd i’r Arglwydd, gwnewch iddo fynedfa uniawn.” Ac Iöan á wisgai ddillad o flew cammarch, gyda gwregys lledr o gylch ei wasg; a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. Yna Caersalem, a holl Iuwdëa, a’r holl wlad àr hyd yr Iorddonen, á gyrchent ato, ac á drochid ganddo yn yr Iorddonen, gàn gyffesu eu pechodau.