YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 8

8
SALM VIII.
11au.
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Dafydd.
1O Arglwydd Iôr! cadarn Greawdwr y byd,
Ardderchog yw d’enw trwy’r ddaear i gyd;
Gosodaist d’ ogoniant goruwch yr holl nef,
A nefoedd a daear a’th fawl âg un llef.
2O enau plant bychain ar fronau y fam
Perffeithiaist yn rhyfedd dy foliant dinam,
I daraw d’elynion mewn syndod yn fud,
A chau ar eneuau dy gablwyr i gyd.
3Pan godwyf fy ngolwg i’r nefoedd uwch ben,
’R hon daenodd dy ddwylaw galluog fel llen,
Y lloer a’r sêr disglaer trwy’r awyr bob un
Ordeiniaist i ddadgan d’ ogoniant i ddyn.
4Ond dyn, O Iehofah! pa beth ydyw dyn
I feddwl am dano, ymwel’d âg e’th hun?
5Ti a’i gwnaethost ychydig îs engyl y nef,
A pharch a gogoniant coronaist ti ef.
6Ar holl waith dy ddwylaw yn Arglwydd fe’i gwnaed,
Pob peth ddarostyngaist i lawr dan ei draed;
7Y defaid a’r ychain, ’nifeiliaid yn gôr,
8Yr adar asgellog, a physgod y môr.
9O Arglwydd Goruchaf! dy enw sydd fawr,
A’th fawl yn ardderchog trwy’r nefoedd a’r llawr;
Cydganed y nefoedd a’r ddaear dy glod,
Tra’r nefoedd a’r ddaear yn berchen eu bod.
Nodiadau.
Pe buasai ymadroddion llawer o’r salmau mor dywyllion a chyfriniol a’u teitlau, ychydig iawn o ddefnydd a allasem ni ei wneyd o honynt. Nid oes gan ddeonglwyr Iuddewig a Christionogol ond amcan‐dybiau yn unig am ystyr y rhan fwyaf o honynt; ond diau fod ystyr ac amcan pob un yn ddealledig i’r cantorion a’r addolwyr yn amser y Salmydd. Tybiai rhai mai offeryn cerdd a ddygasai Dafydd gydag ef o Gath, pan fuasai yn aros yno am dymmor gydag Achis, oedd y Gittith; ac ereill, mai salm a gyfansoddwyd ar yr achlysur o fuddugoliaeth Dafydd ar Goliath o Gath ydyw; a bod yr ymadroddion “o enau plant bychain,” & c. (adn. 2), yn cadarnhau y dyb fod Dafydd yn edrych arno ei hun yn yr ornest hono yn ddim amgen na baban ar fron, mewn cymmhariaeth â Goliath. Ond y mae y ffaith bod Gittith yn deitl i’r salmau lxxxi. a lxxxvi. yn gwanhau nerth y dyb hon yn fawr. Y dybiaeth fwyaf rhesymol, dybiwn yw, naill ai mai enw yr offeryn cerdd ar yr hwn yr oedd y salmau a ddygent y teitl hwn i gael eu dadgan arno, neu enw yr alaw, neu y dôn, yr oeddynt wedi eu cymmhwyso iddi, ydoedd Gittith. Beth bynag am wir ystyr ac amcan y teitl, y mae ysbryd ac amcan y salm ei hun yn eglur ddigon. Gallem dybio oddi wrth fater a thôn y salm, ddarfod i Dafydd ei chyfansoddi pan oedd yn ieuangc, yn bugeilio praidd ei dad, yn fuan wedi ei eneinio i fod yn frenin ar Israel gan Samuel y prophwyd. “Daeth Ysbryd yr Arglwydd ar Dafydd o’r dydd hwnw allan,” medd yr hanes (1 Sam xvi. 13); a dichon mai un o ffrwythau cyntaf yr ysbrydoliaeth dwyfol a ddaeth arno oedd y salm ragorol hon. Enaid yn cael ei lenwi âg ysbryd addoli wrth edrych ar fawredd a gogoniant Duw yn ngweithredoedd ei ddwylaw: y nefoedd a’r ddaear, a mawredd ei ymostyngiad grasol yn cydnabod dyn gwael, ac yn gosod y fath anrhydedd arno, sydd yn llefaru drwy y salm. Enaid yn addoli mewn syndod:— syndod yw y prif deimlad a amlygir ynddi. O enau y salm hon y cauodd y Gwaredwr eneuau y cablwyr hyny, y Phariseaid, a geisient ganddo geryddu y plant bychain yn y dyrfa a lefent “Hosannah i Fab Dafydd!” yn ei orymdaith i Ierusalem: Mat. xi. 25. Cymmhwysa Paul (Heb. ii. 6, 7, 8) yr ymadroddion yn y salm am ddarostyngiad pob peth dan draed dyn at y Messiah, gan ddangos mai ynddo ef yn unig y cyflawnir hwynt yn eu llawn ystyr.

Currently Selected:

Salmau 8: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in