YouVersion Logo
Search Icon

1 Cronicl 4

4
1Meibion Jwda; Phares, Hesron, a Charmi, a Hur, a Sobal. 2A Reaia mab Sobal a genhedlodd Jahath; a Jahath a genhedlodd Ahumai, a Lahad. Dyma deuluoedd y Sorathiaid. 3A’r rhai hyn oedd o dad Etam; Jesreel, ac Isma, ac Idbas: ac enw eu chwaer hwynt oedd Haselelponi. 4A Phenuel tad Gedor, ac Eser tad Husa. Dyma feibion Hur cyntaf-anedig Effrata, tad Bethlehem.
5Ac i Asur tad Tecoa yr oedd dwy wraig, Hela a Naara. 6A Naara a ddug iddo Ahusam, a Heffer, a Themeni, ac Hahastari. Dyma feibion Naara. 7A meibion Hela oedd, Sereth, a Jesoar, ac Ethnan. 8A Chos a genhedlodd Anub, a Sobeba, a theuluoedd Aharhel mab Harum.
9Ac yr oedd Jabes yn anrhydeddusach na’i frodyr; a’i fam a alwodd ei enw ef Jabes, gan ddywedyd, Oblegid i mi ei ddwyn ef trwy ofid. 10A Jabes a alwodd ar Dduw Israel, gan ddywedyd, O na lwyr fendithit fi, ac na ehengit fy nherfynau, a bod dy law gyda mi, a’m cadw oddi wrth ddrwg, fel na’m gofidier! A pharodd Duw ddyfod iddo yr hyn a ofynasai.
11A Chelub brawd Sua a genhedlodd Mehir, yr hwn oedd dad Eston. 12Ac Eston a genhedlodd Bethraffa, a Phasea, a Thehinna tad dinas Nahas. Dyma ddynion Recha. 13A meibion Cenas; Othniel, a Seraia: a meibion Othniel; Hathath. 14A Meonothai a genhedlodd Offra: a Seraia a genhedlodd Joab, tad glyn y crefftwyr; canys crefftwyr oeddynt hwy. 15A meibion Caleb mab Jeffunne; Iru, Ela, a Naam: a meibion Ela oedd, Cenas. 16A meibion Jehaleleel; Siff, a Siffa, Tiria, ac Asareel. 17A meibion Esra oedd, Jether, a Mered, ac Effer, a Jalon: a hi a ddug Miriam, a Sammai, ac Isba tad Estemoa. 18A’i wraig ef Jehwdia a ymddûg Jered tad Gedor, a Heber tad Socho, a Jecuthiel tad Sanoa. A dyma feibion Bitheia merch Pharo, yr hon a gymerth Mered. 19A meibion ei wraig Hodeia, chwaer Naham, tad Ceila y Garmiad, ac Estemoa y Maachathiad. 20A meibion Simon oedd, Amnon, a Rinna, Benhanan, a Thilon. A meibion Isi oedd, Soheth, a Bensoheth.
21A meibion Sela mab Jwda oedd, Er tad Lecha, a Laada tad Maresa, a theuluoedd tylwyth gweithyddion lliain main, o dŷ Asbea, 22A Jocim, a dynion Choseba, a Joas, a Saraff, y rhai oedd yn arglwyddiaethu ar Moab, a Jasubilehem. Ac y mae y pethau hyn yn hen. 23Y rhai hyn oedd grochenyddion yn cyfanheddu ymysg planwydd a chaeau; gyda’r brenin yr arosasant yno yn ei waith ef.
24Meibion Simeon oedd, Nemuel, a Jamin, Jarib, Sera, a Saul: 25Salum ei fab yntau, Mibsam ei fab yntau, Misma ei fab yntau. 26A meibion Misma; Hamuel ei fab yntau, Sacchur ei fab yntau, Simei ei fab yntau. 27Ac i Simei yr oedd un ar bymtheg o feibion, a chwech o ferched, ond i’w frodyr ef nid oedd nemor o feibion: ac nid amlhasai eu holl deulu hwynt megis meibion Jwda. 28A hwy a breswyliasant yn Beerseba, a Molada, a Hasar-sual, 29Yn Bilha hefyd, ac yn Esem, ac yn Tolad, 30Ac yn Bethuel, ac yn Horma, ac yn Siclag, 31Ac yn Beth-marcaboth, ac yn Hasarsusim, ac yn Beth-birei, ac yn Saaraim. Dyma eu dinasoedd hwynt, nes teyrnasu o Dafydd. 32A’u trefydd hwynt oedd, Etam, ac Ain, Rimmon, a Thochen, ac Asan; pump o ddinasoedd. 33A’u holl bentrefi hwynt hefyd, y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn hyd Baal. Dyma eu trigfannau hwynt, a’u hachau. 34A Mesobab, a Jamlech, a Josa mab Amaseia, 35A Joel, a Jehu mab Josibia, fab Seraia, fab Asiel, 36Ac Elioenai, a Jaacoba, a Jesohaia, ac Asaia, ac Adiel, a Jesimiel, a Benaia, 37A Sisa mab Siffi, fab Alon, fab Jedaia, fab Simri, fab Semaia. 38Y rhai hyn erbyn eu henwau a aethant yn benaethiaid yn eu teuluoedd, ac a amlhasant dylwyth eu tadau yn fawr.
39A hwy a aethant i flaenau Gedor, hyd at du dwyrain y dyffryn, i geisio porfa i’w praidd. 40A hwy a gawsant borfa fras, a da, a gwlad eang ei therfynau, a heddychlon a thangnefeddus: canys y rhai a breswyliasent yno o’r blaen oedd o Cham. 41A’r rhai hyn yn ysgrifenedig erbyn eu henwau a ddaethant yn nyddiau Heseceia brenhin Jwda, ac a drawsant eu pebyll a’r anheddau a gafwyd yno, ac a’u difrodasant hwy hyd y dydd hwn, a thrigasant yn eu lle hwynt; am fod porfa i’w praidd hwynt yno. 42Ac ohonynt hwy, sef o feibion Simeon, yr aeth pum cant o ddynion i fynydd Seir, a Phelatia, a Nearia, a Reffaia, ac Ussiel, meibion Isi, yn ben arnynt. 43Trawsant hefyd y gweddill a ddianghasai o Amalec, ac a wladychasant yno hyd y dydd hwn.

Currently Selected:

1 Cronicl 4: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in