1
Ioan 12:26
beibl.net 2015, 2023
Os dych chi am fy ngwasanaethu i rhaid i chi ddilyn yr un llwybr â mi. Byddwch chi’n cael eich hun yn yr un sefyllfa a fi. Y rhai sy’n fy ngwasanaethu i fydd Duw, fy Nhad, yn eu hanrhydeddu.
Compare
Explore Ioan 12:26
2
Ioan 12:25
Bydd y sawl sy’n meddwl am neb ond fe ei hun yn colli ei fywyd, tra bydd y sawl sy’n rhoi ei hun yn olaf yn y byd yma yn cael bywyd tragwyddol.
Explore Ioan 12:25
3
Ioan 12:24
Credwch chi fi, os nad ydy hedyn o wenith yn disgyn ar y ddaear a marw, bydd yn aros fel y mae, yn ddim ond un hedyn bach. Ond os bydd yn marw, bydd yn troi yn gnwd o hadau.
Explore Ioan 12:24
4
Ioan 12:46
Dw i wedi dod fel golau i’r byd, fel bod dim rhaid i’r bobl sy’n credu ynof fi aros yn y tywyllwch.
Explore Ioan 12:46
5
Ioan 12:47
“Dim fi sy’n condemnio rhywun sydd wedi clywed beth dw i’n ddweud a gwrthod ufuddhau. Dod i achub y byd wnes i, dim dod i gondemnio’r byd.
Explore Ioan 12:47
6
Ioan 12:3
Daeth Mair i mewn gyda jar hanner litr o nard pur, oedd yn bersawr drud iawn. Tywalltodd y persawr ar draed Iesu ac wedyn sychu ei draed â’i gwallt. Roedd arogl y persawr i’w glywed drwy’r tŷ i gyd.
Explore Ioan 12:3
7
Ioan 12:13
Dyma nhw’n torri canghennau o’r coed palmwydd a mynd allan i’w gyfarfod gan weiddi, “Hosanna! Clod iddo!” “Mae’r un sy’n dod i gynrychioli’r Arglwydd wedi’i fendithio’n fawr!” “Ie, dyma Frenin Israel!”
Explore Ioan 12:13
8
Ioan 12:23
Ymateb Iesu oedd dweud fel yma: “Mae’r amser wedi dod i mi, Mab y Dyn, gael fy anrhydeddu.
Explore Ioan 12:23
YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy
Home
Bible
Plans
Videos