Ni ddichon neb wasanaethu dau feistr; canys naill ai efe á gasâa y naill ac á gâr y llall; neu o leiaf efe â ymlŷn wrth y naill, ac á esgeulusa y llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon. Am hyny, yr wyf yn gorchymyn i chwi, na fyddwch bryderus o barth eich bywyd, pa beth á fwytäoch, neu pa beth á yfoch; neu o barth eich corff, pa beth á wisgoch. Onid yw bywyd yn fwy rhodd na bwyd, a’r corff na dillad? Edrychwch àr ehediaid y nef. Nid ydynt yn hau nac yn medi. Nid oes ganddynt ystordy; ond y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwynt. Onid ydych chwi yn lawer gwerthfawrocach na hwynt? Heblaw hyny, pwy o honoch á ddichon, drwy ei bryder, estyn ei einioes un awr? A phaham yr ydych yn bryderus yn nghylch dillad? Sylẅwch àr lili y maes. Pa fodd y maent yn tyfu? Nid ydynt yn llafurio: nid ydynt yn nyddu. Eto yr wyf yn sicrâu na chafodd hyd yn nod Solomon yn ei holl ogoniant, ei addurno fel un o’r rhai hyn. Am hyny, os yw Duw felly yn dilladu y llysieuyn, yr hwn sy heddyw yn y maes, ac yfory á fwrir i’r ffwrn, oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, O chwi rai anymddiriedus! Am hyny, na ddywedwch yn bryderus, (fel y gwna y cenedloedd,) Pa beth á fwytäwn; neu pa beth á yfwn; neu â pha beth yr ymddilladwn? Oblegid gŵyr eich Tad nefol bod arnoch eisieu yr holl bethau hyn. Ond ceisiwch yn gyntaf deyrnas Duw, a’r cyfiawnder gofynedig ganddo ef; a’r holl bethau hyn á roddir i chwi yn ychwaneg. Na fyddwch, gàn hyny, yn bryderus yn nghylch y fory; yfory á fydd bryderus am dano ei hun. Digon i bob diwrnod ei flinder ei hun.