“Wele ddyddiau’n dyfod,” medd Iafe,
“Y goddiwedd yr arddwr y medelwr,
A’r sathrwr grawnwin yr heuwr had,
A defnynna’r mynyddoedd win melys,
A thawdd yr holl fryniau.
Yna dychwelaf gaethiwed fy mhobl Israel,
Ac adeiladant ddinasoedd anghyfannedd,
A phreswyliant hwynt;
Plannant hefyd winllannoedd,
Ac yfant eu gwin;
A gwnant erddi,
A bwytânt eu ffrwyth.