Felly y bu farw Saul, am ei gamwedd a wnaethai efe yn erbyn yr ARGLWYDD, sef yn erbyn gair yr ARGLWYDD yr hwn ni chadwasai efe, ac am iddo ymgynghori â dewines, i ymofyn â hi; Ac heb ymgynghori â’r ARGLWYDD: am hynny y lladdodd efe ef, ac y trodd y frenhiniaeth i Dafydd mab Jesse.