Salmau 4:1-4

Salmau 4:1-4 SCN

O Dduw, a’m gwaredaist i droeon O’m blinder, clyw ’ngweddi yn awr. Clywch chwithau, sy’n gwawdio f’anrhydedd A charu celwyddau mor fawr: Mae’r Arglwydd yn gwneud rhyfeddodau I’r ffyddlon, a’i weddi a glyw. Pa werth colli cwsg mewn dicllonedd? Na phechwch, distewch gerbron Duw.