1
Genesis 3:6
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 gyda chroesgyfeiriadau
A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai teg mewn golwg ydoedd, a’i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymerth o’i ffrwyth ef, ac a fwytaodd, ac a roddes i’w gŵr hefyd gyda hi, ac efe a fwytaodd.
Sammenlign
Udforsk Genesis 3:6
2
Genesis 3:1
A’r sarff oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes, y rhai a wnaethai yr ARGLWYDD DDUW. A hi a ddywedodd wrth y wraig, Ai diau ddywedyd o DDUW, Ni chewch chwi fwyta o bob pren o’r ardd?
Udforsk Genesis 3:1
3
Genesis 3:15
Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau: efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef.
Udforsk Genesis 3:15
4
Genesis 3:16
Wrth y wraig y dywedodd, Gan amlhau yr amlhaf dy boenau di a’th feichiogi: mewn poen y dygi blant, a’th ddymuniad fydd at dy ŵr, ac efe a lywodraetha arnat ti.
Udforsk Genesis 3:16
5
Genesis 3:19
Trwy chwys dy wyneb y bwytei fara, hyd pan ddychwelech i’r ddaear; oblegid ohoni y’th gymerwyd: canys pridd wyt ti, ac i’r pridd y dychweli.
Udforsk Genesis 3:19
6
Genesis 3:17
Hefyd wrth Adda y dywedodd, Am wrando ohonot ar lais dy wraig, a bwyta o’r pren am yr hwn y gorchmynaswn i ti, gan ddywedyd, Na fwyta ohono; melltigedig fydd y ddaear o’th achos di: trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy einioes.
Udforsk Genesis 3:17
7
Genesis 3:11
A dywedodd DUW, Pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth? ai o’r pren y gorchmynaswn i ti na fwyteit ohono, y bwyteaist?
Udforsk Genesis 3:11
8
Genesis 3:24
Felly efe a yrrodd allan y dyn, ac a osododd, o’r tu dwyrain i ardd Eden, y ceriwbiaid, a chleddyf tanllyd ysgydwedig, i gadw ffordd pren y bywyd.
Udforsk Genesis 3:24
9
Genesis 3:20
A’r dyn a alwodd enw ei wraig Efa; oblegid hi oedd fam pob dyn byw.
Udforsk Genesis 3:20
Hjem
Bibel
Læseplaner
Videoer