![Iesu](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2F900x506%2Cjpeg%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fstatic-youversionapi-com%2Fcollections%2Fthumbnails%2F1%2Fcy.jpg&w=3840&q=75)
Iesu
Dogfen-ddrama am fywyd Iesu Grist, mae'r ffilm "IESU" wedi cael ei chyfieithu i fwy na 1,400 o ieithoedd ers ei rhyddhau yn 1979. Mae'n parhau i fod y ffilm sydd wedi ei chyfieithu a'i gweld fwyaf yn hanes. Mae Pastor Rick Warren, awdur "The Purpose Driven Life," yn dweud "Y ffilm 'JESUS' yw'r adnodd efengylu mwyaf effeithiol a ddyfeisiwyd erioed." Roedd dros 450 o arweinwyr crefyddol ac ysgolheigion wedi gwerthuso'r sgript i sicrhau cywirdeb hanesyddol a beiblaidd. Mae'r sgript wedi ei seilio'n glos ar Efengyl Luc, felly mae bron pob gair mae Iesu'n ei ddweud yn dod o'r Beibl. Mae ymdrechion trylwyr i bortreadu'r diwylliant Iddewig a Rhufeinig 2,000 o flynyddoedd yn ôl yn cynnwys: dillad wedi'u gwehyddu â llaw yn y 35 o liwiau a ddefnyddid bryd hynny; crochenwaith a wnaed gyda dulliau'r ganrif gyntaf, a hefyd cafwyd gwared â pholion trydan a llinellau ffôn o'r tirwedd. Ffilmiwyd JESUS yn gyfan gwbl mewn 202 o leoliadau yn Israel ym 1979, gyda chast yn cynnwys mwy na 5,000 o Israeliaid ac Arabiaid. Lle roedd yn bosib, ffilmiwyd golygfeydd ar y safleoedd lle digwyddodd y peth 2,000 o flynyddoedd yn ôl.