Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Seffaneia 3:1-20

Seffaneia 3:1-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gwae'r ddinas orthrymus, yr un wrthryfelgar a budr! Ni wrandawodd ar lais neb, ac ni dderbyniodd gyngor; nid ymddiriedodd yn yr ARGLWYDD, ac ni nesaodd at ei Duw. Llewod yn rhuo yn ei chanol oedd ei swyddogion; ei barnwyr yn fleiddiaid yr hwyr, heb adael dim tan y bore; ei phroffwydi'n rhyfygus ac yn rhai twyllodrus; ei hoffeiriaid yn halogi'r cysegredig ac yn treisio'r gyfraith. Ond y mae'r ARGLWYDD yn ei chanol yn gyfiawn; nid yw'n gwneud cam; fore ar ôl bore y mae'n traddodi barn heb ballu ar doriad y dydd; ond ni ŵyr yr anghyfiawn gywilydd. “Torrais ymaith genhedloedd, ac y mae eu tyrau'n garnedd; gwneuthum eu strydoedd yn ddiffeithwch nad eir trwyddo; anrheithiwyd eu dinasoedd, heb bobl, heb drigiannydd. Dywedais, ‘Bydd yn sicr o'm hofni a derbyn cyngor, ac ni chyll olwg ar y cyfan a ddygais arni.’ Ond yr oeddent yn eiddgar i lygru eu holl weithredoedd. “Felly, disgwyliwch amdanaf,” medd yr ARGLWYDD, “am y dydd y codaf yn dyst i'ch erbyn; oherwydd fy mwriad yw casglu cenhedloedd a chynnull teyrnasoedd, i dywallt fy nicter arnynt, holl gynddaredd fy llid; oherwydd â thân fy llid yr ysir yr holl dir. “Yna, rhof i'r bobloedd wefus bur, iddynt oll alw ar enw'r ARGLWYDD a'i wasanaethu'n unfryd. O'r tu hwnt i afonydd Ethiopia y dygir offrwm i mi gan y rhai ar wasgar sy'n ymbil arnaf. “Ar y dydd hwnnw ni'th waradwyddir am dy holl waith yn gwrthryfela i'm herbyn; oherwydd symudaf o'th blith y rhai sy'n ymhyfrydu mewn balchder, ac ni fyddi byth mwy'n ymddyrchafu yn fy mynydd sanctaidd. Ond gadawaf yn dy fysg bobl ostyngedig ac isel, a bydd gweddill Israel yn ymddiried yn enw'r ARGLWYDD; ni wnânt ddim anghyfiawn na dweud celwydd, ac ni cheir tafod twyllodrus yn eu genau; oherwydd porant, a gorweddant heb neb i'w dychryn.” Cân, ferch Seion; gwaedda'n uchel, O Israel; llawenha a gorfoledda â'th holl galon, ferch Jerwsalem. Trodd yr ARGLWYDD dy gosb oddi wrthyt, a symud dy elynion. Y mae brenin Israel, yr ARGLWYDD, yn dy ganol, ac nid ofni ddrwg mwyach. Y dydd hwnnw dywedir wrth Jerwsalem, “Nac ofna, Seion, ac na laesa dy ddwylo; y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn dy ganol, yn rhyfelwr i'th waredu; fe orfoledda'n llawen ynot, a'th adnewyddu yn ei gariad; llawenycha ynot â chân fel ar ddydd gŵyl. Symudaf aflwydd ymaith oddi wrthyt, rhag bod iti gywilydd o'i blegid. Wele fi'n talu'r pwyth i'th orthrymwyr yn yr amser hwnnw; gwaredaf y rhai cloff a chasglaf y rhai gwasgaredig, a rhof iddynt glod ac enw yn holl dir eu gwarth. Y pryd hwnnw, pan fydd yn amser i'ch casglu, mi ddof â chwi adref; oherwydd rhof i chwi glod ac enw ymhlith holl bobloedd y ddaear, pan adferaf eich llwyddiant yn eich gŵydd,” medd yr ARGLWYDD.

Seffaneia 3:1-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae ar ben ar y ddinas ystyfnig, lygredig, sy’n gormesu ei phobl! Mae’n gwrthod gwrando ar neb, na derbyn cyngor. Dydy hi ddim yn trystio’r ARGLWYDD nac yn gofyn am arweiniad ei Duw. Mae ei harweinwyr fel llewod yn rhuo yn ei chanol. Mae ei swyddogion fel bleiddiaid yn y nos yn lladd eu prae a gadael dim ar ôl erbyn y bore. Mae ei phroffwydi’n brolio ac yn twyllo. Mae ei hoffeiriaid yn llygru beth sy’n sanctaidd, ac yn torri Cyfraith Duw. Ac eto mae’r ARGLWYDD cyfiawn yn ei chanol. Dydy e’n gwneud dim sy’n annheg. Mae ei gyfiawnder i’w weld bob bore, mae mor amlwg a golau dydd. Ond does gan y rhai drwg ddim cywilydd. “Dw i wedi dinistrio gwledydd eraill a chwalu eu tyrau amddiffyn. Mae eu strydoedd yn wag heb neb yn cerdded arnyn nhw. Mae eu dinasoedd wedi’u difa. Does neb ar ôl, yr un enaid byw. Meddyliais, ‘Byddi’n fy mharchu i nawr, a derbyn y cyngor dw i’n ei roi i ti! A fydd dim rhaid i dy dai gael eu dinistrio gan y gosb rôn i wedi’i fwriadu.’ Ond na, roedden nhw’n dal ar frys i wneud popeth sydd o’i le.” Felly mae’r ARGLWYDD yn datgan, “Arhoswch chi amdana i! Mae’r diwrnod yn dod pan fydda i’n codi ac yn ymosod. Dw i’n bwriadu casglu’r cenhedloedd at ei gilydd a thywallt fy nigofaint ffyrnig arnyn nhw. Bydd fy nicter fel tân yn difa’r ddaear!” ARGLWYDD “Yna bydda i’n rhoi geiriau glân i’r holl bobloedd, iddyn nhw i gyd addoli’r ARGLWYDD. A byddan nhw i gyd yn ufudd gyda’i gilydd. O’r tu draw i afonydd pell dwyrain Affrica bydd y rhai sy’n gweddïo arna i yn dod ag anrhegion i mi. Bryd hynny, Jerwsalem, fydd neb yn codi cywilydd arnat ti am yr holl bethau ti wedi’i gwneud yn fy erbyn i. Bydda i’n cael gwared â’r rhai balch sy’n brolio. Fydd neb yn ymffrostio ar fy mynydd cysegredig i. Bydda i’n gadael y rhai tlawd gafodd eu cam-drin yn dy ganol, a byddan nhw’n trystio’r ARGLWYDD. Fydd y rhai sydd ar ôl o Israel yn gwneud dim byd drwg, yn dweud dim celwydd nac yn twyllo. Byddan nhw fel defaid yn pori’n ddiogel ac yn gorwedd heb neb i’w dychryn.” Canwch yn llawen, bobl Seion! Gwaeddwch yn uchel bobl Israel! Byddwch lawen a gorfoleddwch â’ch holl galon, bobl Jerwsalem! Mae’r ARGLWYDD wedi cymryd y gosb i ffwrdd, ac yn cael gwared â dy elynion di. Bydd Brenin Israel yn dy ganol a fydd dim rhaid i ti fod ag ofn. Yr adeg hynny byddan nhw’n dweud wrth Jerwsalem, “Paid bod ag ofn, Seion! Paid anobeithio. Mae’r ARGLWYDD dy Dduw gyda ti, fel arwr i dy achub di. Bydd e wrth ei fodd gyda ti. Bydd yn dy fwytho gyda’i gariad, ac yn dathlu a chanu’n llawen am dy fod yn ôl.” “Bydda i’n casglu’r rhai sy’n galaru am y gwyliau, y rhai hynny mae’r cywilydd wedi bod yn faich arnyn nhw. Bryd hynny bydda i’n delio gyda’r rhai wnaeth dy gam-drin. Bydda i’n achub y defaid cloff ac yn casglu’r rhai gafodd eu gyrru ar chwâl. Bydd pobl drwy’r byd yn gwybod, ac yn eu canmol yn lle codi cywilydd arnyn nhw. Bryd hynny bydda i’n dod â chi’n ôl; bydda i’n eich casglu chi at eich gilydd. Byddwch chi’n enwog drwy’r byd i gyd, pan fydda i’n gwneud i chi lwyddo eto,” –meddai’r ARGLWYDD.

Seffaneia 3:1-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwae y fudr a’r halogedig, y ddinas orthrymus! Ni wrandawodd ar y llef, ni dderbyniodd gerydd; nid ymddiriedodd yn yr ARGLWYDD, ni nesaodd at ei DUW. Ei thywysogion o’i mewn sydd yn llewod rhuadwy; ei barnwyr yn fleiddiau yr hwyr, ni adawant asgwrn erbyn y bore. Ei phroffwydi sydd ysgafn, yn wŷr anffyddlon: ei hoffeiriaid a halogasant y cysegr, treisiasant y gyfraith. Yr ARGLWYDD cyfiawn sydd yn ei chanol; ni wna efe anwiredd: yn fore y dwg ei farn i oleuni, ni phalla; ond yr anwir ni fedr gywilyddio. Torrais ymaith y cenhedloedd: eu tyrau sydd anghyfannedd; diffeithiais eu heolydd, fel nad elo neb heibio; eu dinasoedd a ddifwynwyd, heb ŵr, a heb drigiannol. Dywedais, Yn ddiau ti a’m hofni; derbynni gerydd: felly ei thrigfa ni thorrid ymaith, pa fodd bynnag yr ymwelais â hi: eto boregodasant, a llygrasant eu holl weithredoedd. Am hynny disgwyliwch arnaf fi, medd yr ARGLWYDD, hyd y dydd y cyfodwyf i’r ysglyfaeth: canys fy marn sydd ar gynnull y cenhedloedd, ar gasglu y teyrnasoedd, i dywallt arnynt fy llid, holl angerdd fy nigofaint: canys â thân fy eiddigedd yr ysir yr holl ddaear. Oherwydd yna yr adferaf i’r bobl wefus bur, fel y galwo pob un ohonynt ar enw yr ARGLWYDD, i’w wasanaethu ef ag un ysgwydd. O’r tu hwnt i afonydd Ethiopia y dwg fy ngweddïwyr, sef merch fy ngwasgaredig, fy offrwm. Y dydd hwnnw ni’th waradwyddir am dy holl weithredoedd, yn y rhai y pechaist i’m herbyn: canys yna y symudaf o’th blith y neb sydd yn hyfryd ganddynt dy falchder, fel nad ymddyrchafech mwyach yn fy mynydd sanctaidd. Gadawaf ynot hefyd bobl druain dlodion, ac yn enw yr ARGLWYDD y gobeithiant hwy. Gweddill Israel ni wna anwiredd, ac ni ddywedant gelwydd; ac ni cheir yn eu geneuau dafod twyllodrus: canys hwy a borant ac a orweddant, ac ni bydd a’u tarfo. Merch Seion, cân; Israel, crechwena; merch Jerwsalem, ymlawenycha a gorfoledda â’th holl galon. Tynnodd yr ARGLWYDD ymaith dy farnau, bwriodd allan dy elynion: yr ARGLWYDD brenin Israel sydd yn dy ganol, nid ofni ddrwg mwyach. Y dydd hwnnw y dywedir wrth Jerwsalem, Nac ofna; wrth Seion, Na laesed dy ddwylo. Yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ganol di sydd gadarn: efe a achub, efe a lawenycha o’th blegid gan lawenydd; efe a lonydda yn ei gariad, efe a ymddigrifa ynot dan ganu. Casglaf y rhai sydd brudd am y gymanfa, y rhai sydd ohonot, i’r rhai yr oedd ei gwaradwydd yn faich. Wele, mi a ddifethaf yr amser hwnnw bawb a’th flinant: ac a achubaf y gloff, a chasglaf y wasgaredig; ac a’u gosodaf yn glodfawr ac yn enwog yn holl dir eu gwarth. Yr amser hwnnw y dygaf chwi drachefn, yr amser y’ch casglaf: canys gwnaf chwi yn enwog ac yn glodfawr ymysg holl bobl y ddaear, pan ddychwelwyf eich caethiwed o flaen eich llygaid, medd yr ARGLWYDD.