Sechareia 9:1-10
Sechareia 9:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oracl. Gair yr ARGLWYDD yn nhir Hadrach ac yn Namascus, ei orffwysfa. Yn wir, eiddo'r ARGLWYDD yw dinasoedd Aram, fel holl lwythau Israel; hefyd Hamath, sy'n terfynu arni, a Tyrus a Sidon, er eu bod yn ddoeth iawn. Cododd Tyrus dŵr iddi ei hun; pentyrrodd arian fel llwch, ac aur fel llaid heol. Ond wele, y mae'r ARGLWYDD yn cymryd ei heiddo ac yn difetha ei grym ar y môr; ac ysir hithau yn y tân. Bydd Ascalon yn gweld ac yn ofni, Gasa hefyd, a bydd yn gwingo gan ofid, ac Ecron, oherwydd drysir ei gobaith; derfydd am frenin yn Gasa, a bydd Ascalon heb drigolion; pobl gymysgryw fydd yn trigo yn Asdod, a thorraf ymaith falchder y Philistiad. Tynnaf ymaith ei waed o'i enau, a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd; bydd yntau'n weddill i'n Duw ni, ac fel tylwyth yn Jwda; a bydd Ecron fel y Jebusiaid. Yna gwersyllaf i wylio fy nhŷ, fel na chaiff neb fynd i mewn nac allan. Ni ddaw gorthrymydd atynt mwyach, oherwydd yr wyf yn gwylio'n awr â'm llygaid fy hun. “Llawenha'n fawr, ferch Seion; bloeddia'n uchel, ferch Jerwsalem. Wele dy frenin yn dod atat â buddugoliaeth a gwaredigaeth, yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn, ar ebol, llwdn asen. Tyr ymaith y cerbyd o Effraim a'r meirch o Jerwsalem; a thorrir ymaith y bwa rhyfel. Bydd yn siarad heddwch â'r cenhedloedd; bydd ei lywodraeth o fôr i fôr, o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.
Sechareia 9:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y neges roddodd yr ARGLWYDD am ardal Chadrach, yn arbennig tref Damascus. (Mae llygad yr ARGLWYDD ar y ddynoliaeth fel mae ar lwythau Israel i gyd.) Ac am Chamath, sy’n ffinio gyda Damascus, a Tyrus a Sidon hefyd, sy’n meddwl ei bod mor glyfar. Mae Tyrus wedi gwneud ei hun mor gryf ac mor gyfoethog – mae wedi pentyrru arian fel pridd, ac aur fel baw ar y strydoedd! Ond bydd y Meistr yn cymryd y cwbl, ac yn suddo ei llongau yn y môr. Bydd tref Tyrus yn cael ei llosgi’n ulw! Bydd Ashcelon yn gweld hyn ac yn dychryn. Bydd Gasa yn gwingo mewn ofn; ac Ecron hefyd wedi anobeithio’n llwyr. Bydd brenin Gasa yn cael ei ladd, a fydd neb ar ôl yn Ashcelon. A bydd pobl o dras gymysg yn setlo yn Ashdod. Dw i’n mynd i dorri crib y Philistiaid! Yna wnân nhw byth eto fwyta dim gyda gwaed ynddo, na chig wedi’i aberthu i eilun-dduwiau. Bydd y rhai sydd ar ôl yn Philistia yn dod i gredu yn ein Duw – byddan nhw fel un o deuluoedd Jwda. A bydd pobl Ecron fel y Jebwsiaid. Bydda i’n gwersylla o gwmpas y deml, i’w hamddiffyn rhag y byddinoedd sy’n mynd a dod. Fydd neb yn ymosod ar fy mhobl i’w gormesu nhw byth eto. Dw i fy hun yn gofalu amdanyn nhw. Dathlwch bobl Seion! Gwaeddwch yn llawen, bobl Jerwsalem! Edrych! Mae dy frenin yn dod. Mae e’n gyfiawn ac yn achub; Mae’n addfwyn ac yn marchogaeth ar asyn, ie, ar ebol asen. Bydda i’n symud y cerbydau rhyfel o Israel, a mynd â’r ceffylau rhyfel i ffwrdd o Jerwsalem. Bydd arfau rhyfel yn cael eu dinistrio! Yna bydd y brenin yn cyhoeddi heddwch i’r gwledydd. Bydd yn teyrnasu o fôr i fôr, ac o afon Ewffrates i ben draw’r byd!
Sechareia 9:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Baich gair yr ARGLWYDD yn nhir Hadrach, a Damascus fydd ei orffwysfa ef: pan fyddo llygaid dyn ar yr ARGLWYDD, fel yr eiddo holl lwythau Israel. A Hamath hefyd a derfyna wrthi; Tyrus a Sidon hefyd, er ei bod yn ddoeth iawn. A Thyrus a adeiladodd iddi ei hun amddiffynfa, ac a bentyrrodd arian fel llwch, ac aur coeth fel tom yr heolydd. Wele, yr ARGLWYDD a’i bwrw hi allan, ac a dery ei nerth hi yn y môr; a hi a ysir â thân. Ascalon a’i gwêl, ac a ofna; a Gasa, ac a ymofidia yn ddirfawr; Ecron hefyd, am ei chywilyddio o’i gobaith; difethir hefyd y brenin allan o Gasa, ac Ascalon ni chyfanheddir. Estron hefyd a drig yn Asdod, a thorraf ymaith falchder y Philistiaid. A mi a gymeraf ymaith ei waed o’i enau, a’i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd: ac efe a weddillir i’n DUW ni, fel y byddo megis pennaeth yn Jwda, ac Ecron megis Jebusiad. A gwersyllaf o amgylch fy nhŷ rhag y llu, rhag a êl heibio, a rhag a ddychwelo; fel nad elo gorthrymwr trwyddynt mwyach: canys yn awr gwelais â’m llygaid. Bydd lawen iawn, ti ferch Seion; a chrechwena, ha ferch Jerwsalem: wele dy frenin yn dyfod atat: cyfiawn ac achubydd yw efe; y mae efe yn llariaidd, ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol llwdn asen. Torraf hefyd y cerbyd oddi wrth Effraim, a’r march oddi wrth Jerwsalem, a’r bwa rhyfel a dorrir: ac efe a lefara heddwch i’r cenhedloedd: a’i lywodraeth fydd o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd eithafoedd y ddaear.