Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sechareia 8:1-23

Sechareia 8:1-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

A daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Yr wyf yn eiddigeddus dros Seion, yn eiddigeddus iawn; â llid mawr yr wyf yn eiddigeddus drosti.’ Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Dychwelaf i Seion a thrigo yng nghanol Jerwsalem, a gelwir Jerwsalem, Y Ddinas Ffyddlon, a mynydd ARGLWYDD y Lluoedd, Y Mynydd Sanctaidd.’ Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Bydd hen wŷr a gwragedd unwaith eto yn eistedd yn heolydd Jerwsalem, pob un â ffon yn ei law oherwydd ei henaint; bydd strydoedd y ddinas yn llawn o fechgyn a genethod yn chwarae ar hyd y stryd.’ Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Os yw'n rhyfedd yng ngolwg gweddill y bobl hyn yn y dyddiau hynny, a yw hefyd yn rhyfedd yn fy ngolwg i?’ medd ARGLWYDD y Lluoedd. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Wele fi'n gwaredu fy mhobl o wledydd y dwyrain a'r gorllewin, a'u dwyn i drigo yng nghanol Jerwsalem; a byddant yn bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy, mewn gwirionedd a chyfiawnder.’ “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Chwi yn y dyddiau hyn sy'n clywed y geiriau hyn o enau'r proffwydi oedd yno pan osodwyd sylfeini tŷ ARGLWYDD y Lluoedd, cryfhaer eich dwylo i adeiladu'r deml. Oherwydd cyn y dyddiau hynny nid oedd llogi ar ddyn nac ar anifail, ac ni chaed llonydd gan y gelyn i fynd a dod, ac yr oeddwn yn gyrru pob un ohonynt yn erbyn ei gilydd. Ond yn awr nid wyf yr un tuag at weddill y bobl hyn ag yn y dyddiau gynt,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd. ‘Oherwydd bydd hau mewn heddwch; rhydd y winwydden ei ffrwyth, y tir ei gynnyrch, a'r nefoedd ei gwlith; rhof yr holl bethau hyn yn feddiant i weddill y bobl hyn. Ac fel y buoch chwi, dŷ Jwda a thŷ Israel, yn felltith ymysg y cenhedloedd, felly y'ch gwaredaf, a byddwch yn fendith. Peidiwch ag ofni, ond cryfhaer eich dwylo.’ “Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Fel y bwriedais wneud drwg i chwi pan gythruddodd eich hynafiaid fi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘ac nid edifarheais, felly y bwriadaf eto yn y dyddiau hyn wneud da i Jerwsalem ac i dŷ Jwda; peidiwch ag ofni. Dyma'r peth a wnewch: dywedwch y gwir wrth eich gilydd; gwnewch farn uniawn a chywir yn eich pyrth; peidiwch â dyfeisio â'ch meddyliau ddrwg i'ch gilydd, na charu llwon celwyddog, oherwydd yr wyf yn casáu yr holl bethau hyn,’ medd yr ARGLWYDD.” Daeth gair ARGLWYDD y Lluoedd ataf a dweud, “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Bydd ymprydiau'r pedwerydd mis, a'r pumed mis, a'r seithfed mis, a'r degfed mis yn troi'n dymhorau llawenydd a dedwyddwch, ac yn wyliau llawen i dŷ Jwda; felly carwch wirionedd a heddwch.’ “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Daw eto bobloedd a thrigolion dinasoedd mawrion; bydd trigolion un dref yn mynd at drigolion tref arall ac yn dweud, Awn i geisio ffafr yr ARGLWYDD ac i ymofyn ag ARGLWYDD y Lluoedd; ac fe af finnau hefyd. Daw pobloedd cryfion a chenhedloedd nerthol i ymofyn ag ARGLWYDD y Lluoedd yn Jerwsalem ac i geisio ffafr yr ARGLWYDD.’ Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Yn y dyddiau hynny bydd deg o blith cenhedloedd o bob iaith yn cydio yn llewys rhyw Iddew ac yn dweud, Awn gyda chwi, oherwydd clywsom fod Duw gyda chwi.’ ”

Sechareia 8:1-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma fi’n cael neges gan yr ARGLWYDD hollbwerus: “Mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud, ‘Dw i’n teimlo i’r byw dros Seion. Dw i wedi gwylltio’n lân am beth maen nhw wedi’i wneud iddi.’ “Mae’r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i’n dod yn ôl i Fynydd Seion, a bydda i’n byw yn Jerwsalem. Bydd Jerwsalem yn cael ei galw “Y Ddinas Ffyddlon”, “Mynydd yr ARGLWYDD hollbwerus”, “Y Mynydd Cysegredig”.’ “Mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud hefyd, ‘Bydd dynion a gwragedd mewn oed yn eistedd ar sgwariau Jerwsalem unwaith eto – pob un yn pwyso ar ei ffon am eu bod nhw mor hen. A bydd sgwariau’r ddinas yn llawn plant – bechgyn a merched yn chwarae’n braf. Falle fod y peth yn swnio’n amhosibl i’r criw bach ohonoch chi sydd yma nawr,’ – meddai’r ARGLWYDD hollbwerus – ‘ond ydych chi’n meddwl ei fod yn amhosibl i mi?’ “Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Dw i’n mynd i achub fy mhobl o wledydd y dwyrain a’r gorllewin, a dod â nhw’n ôl i Jerwsalem i fyw. Fy mhobl i fyddan nhw, a bydda i’n Dduw iddyn nhw. Bydda i’n ffyddlon ac yn deg â nhw. “Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Dych chi’n clywed heddiw yr un peth gafodd ei ddweud gan y proffwydi pan gafodd sylfeini teml yr ARGLWYDD hollbwerus eu gosod i’w hadeiladu eto, sef, ‘Daliwch ati! Cyn hynny doedd pobl nac anifeiliaid yn ennill dim am eu gwaith! Doedd hi ddim yn saff i bobl fynd a dod. Rôn i’n gwneud i bawb dynnu’n groes i’w gilydd. Ond nawr mae pethau’n mynd i fod yn wahanol i’r bobl yma sydd ar ôl,’ – meddai’r ARGLWYDD hollbwerus. ‘Bydd llonydd i bobl hau cnydau. Bydd ffrwyth yn tyfu ar y winwydden, a’r tir yn rhoi cnwd da. Bydd yr awyr yn rhoi glaw a gwlith i’r ddaear. Dyna sut fydd hi bob amser i’r bobl yma sydd ar ôl! O’r blaen, roeddech chi’n cael eich ystyried yn wlad wedi’i melltithio, Israel a Jwda. Ond dw i’n mynd i’ch achub chi, a byddwch chi’n amlwg yn bobl wedi’u bendithio. Peidiwch bod ag ofn! Daliwch ati!’ Mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud, ‘Fel roeddwn i am eich cosbi chi pan oedd eich hynafiaid yn fy ngwylltio i (a dyna’n union beth wnes i), dw i bellach am wneud pethau da i bobl Jerwsalem a Jwda – felly peidiwch bod ag ofn! “‘Dyma beth dw i eisiau i chi ei wneud: Dwedwch y gwir wrth eich gilydd. Hybu cyfiawnder a thegwch yn y llysoedd barn. Peidio bwriadu drwg i’ch gilydd. Peidio dweud celwydd ar lw. Dw i’n casáu pethau fel yna,’ meddai’r ARGLWYDD.” Dyma fi’n cael neges gan yr ARGLWYDD hollbwerus: “Mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud, ‘Bydd y dyddiau o ympryd yn y pedwerydd, pumed, seithfed a degfed mis yn troi’n ddigwyddiadau hapus – yn bartïon i bobl Jwda ddathlu! Ond rhaid caru’r gwir a byw yn heddychlon!’ “Mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud, ‘Ryw ddydd, bydd pobl o bobman yn dod yma. Bydd pobl o un dref yn mynd i ddweud wrth dref arall, “Gadewch i ni droi at yr ARGLWYDD hollbwerus, a gofyn iddo’n bendithio ni. Dewch gyda ni! Dŷn ni’n mynd!”’ Bydd lot o bobl wahanol, a gwledydd cryfion yn dod i Jerwsalem, ac yn gofyn i’r ARGLWYDD hollbwerus eu bendithio nhw. “Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Bryd hynny bydd deg o bobl o bob gwlad ac iaith yn gafael yn ymyl clogyn Iddew, a dweud, ‘Gad i ni fynd gyda chi. Dŷn ni wedi clywed fod Duw gyda chi!’”

Sechareia 8:1-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Drachefn y daeth gair ARGLWYDD y lluoedd ataf, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Eiddigeddais eiddigedd mawr dros Seion ac â llid mawr yr eiddigeddais drosti. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dychwelais at Seion, a thrigaf yng nghanol Jerwsalem; a Jerwsalem a elwir Dinas y gwirionedd; a mynydd ARGLWYDD y lluoedd, Y mynydd sanctaidd. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Hen wŷr a hen wragedd a drigant eto yn heolydd Jerwsalem, a phob gŵr â’i ffon yn ei law oherwydd amlder dyddiau. A heolydd y ddinas a lenwir o fechgyn a genethod yn chwarae yn ei heolydd hi. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Os anodd yw hyn yn y dyddiau hyn yng ngolwg gweddill y bobl hyn, ai anodd fyddai hefyd yn fy ngolwg i? medd ARGLWYDD y lluoedd. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Wele fi yn gwaredu fy mhobl o dir y dwyrain, ac o dir machludiad haul. A mi a’u dygaf hwynt, fel y preswyliont yng nghanol Jerwsalem: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a byddaf finnau iddynt hwythau yn DDUW mewn gwirionedd ac mewn cyfiawnder. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Cryfhaer eich dwylo chwi, y rhai ydych yn clywed yn y dyddiau hyn y geiriau hyn o enau y proffwydi, y rhai oedd yn y dydd y sylfaenwyd tŷ ARGLWYDD y lluoedd, fel yr adeiledid y deml. Canys cyn y dyddiau hyn nid oedd na chyflog i ddyn, na llog am anifail; na heddwch i’r un a elai allan, nac a ddelai i mewn, gan y gorthrymder: oblegid gyrrais yr holl ddynion bob un ym mhen ei gymydog. Ond yn awr ni byddaf fi i weddill y bobl hyn megis yn y dyddiau gynt, medd ARGLWYDD y lluoedd. Canys bydd yr had yn ffynadwy; y winwydden a rydd ei ffrwyth, a’r ddaear a rydd ei chynnyrch, a’r nefoedd a roddant eu gwlith: a pharaf i weddill y bobl hyn feddiannu yr holl bethau hyn. A bydd, mai megis y buoch chwi, tŷ Jwda a thŷ Israel, yn felltith ymysg y cenhedloedd; felly y’ch gwaredaf chwi, a byddwch yn fendith: nac ofnwch, ond cryfhaer eich dwylo. Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Fel y meddyliais eich drygu chwi, pan y’m digiodd eich tadau, medd ARGLWYDD y lluoedd, ac nid edifarheais; Felly drachefn y meddyliais yn y dyddiau hyn wneuthur lles i Jerwsalem, ac i dŷ Jwda: nac ofnwch. Dyma y pethau a wnewch chwi; Dywedwch y gwir bawb wrth ei gymydog; bernwch farn gwirionedd a thangnefedd yn eich pyrth; Ac na fwriedwch ddrwg neb i’w gilydd yn eich calonnau; ac na hoffwch lw celwyddog: canys yr holl bethau hyn a gaseais, medd yr ARGLWYDD. A gair ARGLWYDD y lluoedd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ympryd y pedwerydd mis, ac ympryd y pumed, ac ympryd y seithfed, ac ympryd y degfed, a fydd i dŷ Jwda yn llawenydd a hyfrydwch, ac yn uchel wyliau daionus: gan hynny cerwch wirionedd a heddwch. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Bydd eto, y daw pobloedd a phreswylwyr dinasoedd lawer: Ac yr â preswylwyr y naill ddinas i’r llall, gan ddywedyd, Awn gan fyned i weddïo gerbron yr ARGLWYDD, ac i geisio ARGLWYDD y lluoedd: minnau a af hefyd. Ie, pobloedd lawer a chenhedloedd cryfion a ddeuant i geisio ARGLWYDD y lluoedd yn Jerwsalem, ac i weddïo gerbron yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Yn y dyddiau hynny y bydd i ddeg o ddynion, o bob tafodiaith y cenhedloedd, ymaflyd, ymaflyd, meddaf, yng ngodre gŵr o Iddew, gan ddywedyd, Awn gyda chwi: canys clywsom fod DUW gyda chwi.