Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sechareia 2:1-13

Sechareia 2:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Edrychais eto, a gweld dyn gyda llinyn mesur yn ei law. Gofynnais iddo, “Ble ti’n mynd?” A dyma fe’n ateb, “I fapio Jerwsalem, a mesur ei hyd a’i lled.” Yna dyma’r angel oedd wedi bod yn siarad â mi yn cerdded i ffwrdd, a daeth angel arall i’w gyfarfod. Dwedodd hwnnw wrtho, “Brysia! Dos i ddweud wrth y dyn ifanc yna y bydd dim waliau i Jerwsalem. Bydd cymaint o bobl ac anifeiliaid yn byw ynddi! Mae’r ARGLWYDD yn dweud, ‘Bydda i fy hun fel wal o dân o’i chwmpas, a bydd fy ysblander yn disgleirio o’i mewn hi.’” “Hei, dewch! Gallwch ddianc o dir y gogledd!” meddai’r ARGLWYDD. “Rôn i wedi’ch chwalu chi i bob cyfeiriad, i’r pedwar gwynt. Ond gallwch ddianc o Babilon a dod adre, bobl Seion!” Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Ar ôl i’w ysblander ddod, bydd yn fy anfon i at y gwledydd wnaeth ymosod arnoch chi, i ddweud fod unrhyw un sy’n eich cyffwrdd chi yn cyffwrdd cannwyll ei lygad! “Dw i’n mynd i’w cosbi nhw mor galed, bydd eu caethion yn cymryd popeth oddi arnyn nhw!” meddai. Byddwch chi’n gwybod wedyn mai’r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi fy anfon i. “Canwch a dathlwch, bobl Seion! Dw i’n dod i fyw yn eich canol chi,” meddai’r ARGLWYDD. “Bydd llawer o wledydd yn uniaethu â’r ARGLWYDD bryd hynny, a byddan nhw hefyd yn bobl i mi. Yn wir, bydda i’n byw yn eich canol chi i gyd.” Byddwch chi’n gwybod wedyn mai’r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi. Bydd yr ARGLWYDD yn cymryd Jwda fel ei ran arbennig e o’r wlad gysegredig, a bydd yn dewis Jerwsalem iddo’i hun unwaith eto. Ust! Pawb drwy’r byd, byddwch dawel o flaen yr ARGLWYDD! Mae e ar fin gweithredu eto o’r lle sanctaidd ble mae’n byw.

Sechareia 2:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Pan edrychais i fyny, gwelais ŵr â llinyn mesur yn ei law, a dywedais, “Ble'r wyt ti'n mynd?” Atebodd, “I fesur Jerwsalem, i weld beth yw ei lled a beth yw ei hyd.” Wrth i'r angel oedd yn siarad â mi ddod allan, daeth angel arall i'w gyfarfod, a dweud wrtho, “Rhed i ddweud wrth y llanc acw, ‘Bydd Jerwsalem yn faestrefi heb furiau, gan mor niferus fydd pobl ac anifeiliaid ynddi. A byddaf fi,’ medd yr ARGLWYDD, ‘yn fur o dân o'i hamgylch, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol.’ ” “Gwyliwch, gwyliwch! Ffowch o dir y gogledd,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd taenaf chwi ar led fel pedwar gwynt y nefoedd,” medd yr ARGLWYDD. “Gwyliwch! Ffowch i Seion, chwi sy'n trigo ym Mabilon.” Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, wedi i'w ogoniant fy anfon at y cenhedloedd sy'n eich ysbeilio, am fod pob un sy'n cyffwrdd â chwi yn cyffwrdd â channwyll ei lygad: “Wele fi'n ysgwyd fy nwrn yn eu herbyn, a byddant yn ysbail i'w gweision eu hunain.” Yna cewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd. “Gwaedda a gorfoledda, ferch Seion; oherwydd yr wyf yn dod i drigo yn dy ganol,” medd yr ARGLWYDD. “A bydd cenhedloedd lawer yn glynu wrth yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw, ac yn dod yn bobl i mi, a byddaf yn trigo yn dy ganol, a chei wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd atat. Bydd yr ARGLWYDD yn etifeddu Jwda yn gyfran iddo yn y tir sanctaidd, a bydd eto yn dewis Jerwsalem. Distawed pawb gerbron yr ARGLWYDD, oherwydd y mae wedi codi o'i drigfa sanctaidd.”

Sechareia 2:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Dyrchefais fy llygaid drachefn, ac edrychais; ac wele ŵr, ac yn ei law linyn mesur. A dywedais, I ba le yr ei di? Ac efe a ddywedodd wrthyf, I fesuro Jerwsalem, i weled beth yw ei lled hi, a pheth yw ei hyd hi. Ac wele yr angel a oedd yn ymddiddan â mi yn myned allan, ac angel arall yn myned allan i’w gyfarfod ef. Ac efe a ddywedodd wrtho, Rhed, llefara wrth y llanc hwn, gan ddywedyd, Jerwsalem a gyfanheddir fel maestrefi, rhag amled dyn ac anifail o’i mewn. Canys byddaf iddi yn fur o dân o amgylch, medd yr ARGLWYDD, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol. Ho, ho, deuwch allan, a ffowch o wlad y gogledd, medd yr ARGLWYDD: canys taenais chwi fel pedwar gwynt y nefoedd, medd yr ARGLWYDD. O Seion, ymachub, yr hon wyt yn preswylio gyda merch Babilon. Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ar ôl y gogoniant y’m hanfonodd at y cenhedloedd y rhai a’ch ysbeiliasant chwi: canys a gyffyrddo â chwi, sydd yn cyffwrdd â channwyll ei lygad ef. Canys wele fi yn ysgwyd fy llaw arnynt, a byddant yn ysglyfaeth i’w gweision: a chânt wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a’m hanfonodd. Cân a llawenycha, merch Seion: canys wele fi yn dyfod; a mi a drigaf yn dy ganol di, medd yr ARGLWYDD. A’r dydd hwnnw cenhedloedd lawer a ymlynant wrth yr ARGLWYDD, ac a fyddant bobl i mi: a mi a drigaf yn dy ganol di; a chei wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a’m hanfonodd atat. A’r ARGLWYDD a etifedda Jwda, ei ran yn y tir sanctaidd, ac a ddewis Jerwsalem drachefn. Pob cnawd, taw yng ngŵydd yr ARGLWYDD: canys cyfododd o drigfa ei sancteiddrwydd.