Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sechareia 1:7-21

Sechareia 1:7-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ar y pedwerydd ar hugain o'r unfed mis ar ddeg, sef mis Sebat, o ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Sechareia fab Beracheia, fab Ido. Dywedodd Sechareia: Neithiwr cefais weledigaeth, dyn yn marchogaeth ar geffyl coch. Yr oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd yn y pant, ac o'i ôl yr oedd meirch cochion, brithion a gwynion. A gofynnais, “Beth yw'r rhai hyn, arglwydd?” A dywedodd yr angel oedd yn siarad â mi, “Dangosaf i ti beth ydynt.” Yna dywedodd y gŵr oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, “Dyma'r rhai a anfonodd yr ARGLWYDD i dramwyo dros y ddaear.” A dywedasant wrth angel yr ARGLWYDD, a oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, “Yr ydym wedi bod dros y ddaear, ac y mae'r holl ddaear yn dawel ac yn heddychlon.” Yna atebodd angel yr ARGLWYDD, “O ARGLWYDD y Lluoedd, am ba hyd y peidi â thosturio wrth Jerwsalem ac wrth ddinasoedd Jwda, y dangosaist dy lid wrthynt y deng mlynedd a thrigain hyn?” A llefarodd yr Arglwydd eiriau caredig a chysurlon wrth yr angel oedd yn siarad â mi, a dywedodd yr angel oedd yn siarad â mi, “Cyhoedda, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Yr wyf yn eiddigeddus iawn dros Jerwsalem a thros Seion. Yr wyf yn llawn llid mawr yn erbyn y cenhedloedd y mae'n esmwyth arnynt, am iddynt bentyrru drwg ar ddrwg pan nad oedd fy llid ond bychan.’ Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Dychwelaf i Jerwsalem mewn trugaredd ac adeiledir fy nhŷ ynddi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘ac estynnir llinyn mesur dros Jerwsalem.’ Cyhoedda hefyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Bydd fy ninasoedd eto'n orlawn o ddaioni; rhydd yr ARGLWYDD eto gysur i Seion, a bydd eto'n dewis Jerwsalem.’ ” Edrychais i fyny a gwelais, ac wele bedwar corn. A gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth yw'r rhain?” A dywedodd wrthyf, “Dyma'r cyrn a wasgarodd Jwda, Israel a Jerwsalem.” Yna dangosodd yr ARGLWYDD imi bedwar gof. A dywedais, “Beth y mae'r rhain am ei wneud?” Atebodd, “Bu'r cyrn hyn yn gwasgaru Jwda mor llwyr fel na allai neb godi ei ben; ond daeth y gofaint i'w dychryn a dinistrio cyrn y cenhedloedd a gododd gorn yn erbyn gwlad Jwda i'w gwasgaru.”

Sechareia 1:7-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ar y pedwerydd ar hugain o fis un ar ddeg (sef mis Shebat) yn ail flwyddyn teyrnasiad Dareius, dyma’r proffwyd Sechareia yn cael neges arall gan yr ARGLWYDD. Dwedodd Sechareia: Ces i weledigaeth yng nghanol y nos. Gwelais ddyn ar gefn ceffyl fflamgoch. Roedd e’n sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn y ceunant. Roedd ceffylau eraill tu ôl iddo – rhai fflamgoch, rhai llwyd a rhai gwyn. Roedd angel yna wrth ymyl, a dyma fi’n gofyn iddo, “Beth ydy ystyr hyn, syr?” A dyma fe’n ateb, “Gwna i ddangos i ti.” Yna dyma’r dyn oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn siarad, a dweud, “Yr ARGLWYDD sydd wedi anfon y rhain i chwilio a gweld beth sy’n digwydd ar y ddaear.” A dyma’r marchogion eraill yn rhoi adroddiad i angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd: “Dŷn ni wedi bod i edrych dros y ddaear gyfan, ac mae pobman dan reolaeth ac yn dawel.” Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn gofyn, “ARGLWYDD hollbwerus, rwyt ti wedi bod yn flin gyda Jerwsalem a threfi eraill Jwda ers saith deg o flynyddoedd bellach. Am faint mwy, cyn i ti i ddangos trugaredd atyn nhw?” A dyma’r ARGLWYDD yn ateb a dweud pethau caredig i gysuro’r angel oedd yn siarad â mi. A dyma’r angel yn troi ata i, a dweud wrtho i, “Cyhoedda fod yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud, ‘Dw i’n teimlo i’r byw dros Jerwsalem a dros Seion. Ond dw i wedi digio go iawn gyda’r gwledydd hynny sydd mor gyfforddus a hunanfodlon! Oeddwn, roeddwn i yn ddig gyda’m pobl, ond aeth y rhain yn rhy bell gyda’i creulondeb! Felly, dw i’n mynd i droi’n ôl at Jerwsalem, a dangos trugaredd ati. Dw i’n mynd i adeiladu fy nheml yno eto. Bydd syrfëwr yn dod i fesur Jerwsalem unwaith eto.’ Ie, dyna mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud. Cyhoedda’n uchel eto beth ydy neges yr ARGLWYDD hollbwerus: ‘Bydd y trefi’n fwrlwm o fywyd ac yn llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, ac yn dangos eto ei fod wedi dewis Jerwsalem iddo’i hun,’” Pan edrychais eto, gwelais bedwar corn anifail. Dyma fi’n gofyn i’r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy’r cyrn yma?” A dyma fe’n ateb, “Y cyrn yma ydy’r gwledydd pwerus wnaeth yrru Jwda, Israel a Jerwsalem ar chwâl.” Yna dyma’r ARGLWYDD yn dangos pedwar gof i mi. A dyma fi’n gofyn, “Beth mae’r rhain yn mynd i’w wneud?” A dyma fe’n ateb, “Y cyrn ydy’r gwledydd pwerus wnaeth yrru pobl Jwda ar chwâl, nes bod neb ar ôl. Ond mae’r gofaint wedi dod i ddychryn gelynion Jwda, a malu cyrn y gwledydd wnaeth ymosod arni a chwalu ei phobl i bob cyfeiriad.”

Sechareia 1:7-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r unfed mis ar ddeg, hwnnw yw mis Sebat, o’r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd, Gwelais noswaith; ac wele ŵr yn marchogaeth ar farch coch, ac yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrtwydd y rhai oedd yn y pant; ac o’i ôl ef feirch cochion, brithion, a gwynion. Yna y dywedais, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? A dywedodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi wrthyf, Mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn. A’r gŵr, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, a atebodd ac a ddywedodd, Dyma y rhai a hebryngodd yr ARGLWYDD i ymrodio trwy y ddaear. A hwythau a atebasant angel yr ARGLWYDD, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrt, ac a ddywedasant, Rhodiasom trwy y ddaear; ac wele yr holl ddaear yn eistedd, ac yn llonydd. Ac angel yr ARGLWYDD a atebodd ac a ddywedodd, O ARGLWYDD y lluoedd, pa hyd na thrugarhei wrth Jerwsalem, a dinasoedd Jwda, wrth y rhai y digiaist y deng mlynedd a thrigain hyn? A’r ARGLWYDD a atebodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi, â geiriau daionus, a geiriau comfforddus. A’r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a ddywedodd wrthyf, Gwaedda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Deliais eiddigedd mawr dros Jerwsalem a thros Seion: A digiais yn ddirfawr wrth y cenhedloedd difraw; y rhai pan ddigiais ychydig, hwythau a gynorthwyasant y niwed. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dychwelais at Jerwsalem â thrugareddau: fy nhŷ a adeiledir ynddi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a llinyn a estynnir ar Jerwsalem. Gwaedda eto, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Fy ninasoedd a ymehangant gan ddaioni, a’r ARGLWYDD a rydd gysur i Seion eto, ac a ddewis Jerwsalem eto. A chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele, bedwar corn. A dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn? Dywedodd yntau wrthyf, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, Israel, a Jerwsalem. A’r ARGLWYDD a ddangosodd i mi bedwar saer hefyd. Yna y dywedais, I wneuthur pa beth y daw y rhai hyn? Ac efe a lefarodd, gan ddywedyd, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, fel na chodai un ei ben: ond y rhai hyn a ddaethant i’w tarfu hwynt, i daflu allan gyrn y Cenhedloedd, y rhai a godasant eu cyrn ar wlad Jwda i’w gwasgaru hi.