Titus 3:5-6
Titus 3:5-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wnaeth e ddim ein hachub ni am ein bod ni’n dda, ond am ei fod e’i hun mor drugarog! Golchodd ni’n lân o’n pechod a rhoi bywyd newydd i ni drwy’r Ysbryd Glân. Tywalltodd yr Ysbryd arnon ni’n hael o achos beth oedd Iesu Grist wedi’i wneud i’n hachub ni.
Rhanna
Darllen Titus 3Titus 3:5-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
fe'n hachubodd ni, nid ar sail unrhyw weithredoedd o gyfiawnder a wnaethom ni, ond o'i drugaredd ei hun. Fe'n hachubodd ni trwy olchiad yr ailenedigaeth ac adnewyddiad gan yr Ysbryd Glân, a dywalltodd ef arnom ni yn helaeth drwy Iesu Grist, ein Gwaredwr.
Rhanna
Darllen Titus 3Titus 3:5-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ôl ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân; Yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr
Rhanna
Darllen Titus 3