Titus 3:4-8
Titus 3:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond pan amlygwyd daioni Duw, ein Gwaredwr, a'i gariad tuag at bobl, fe'n hachubodd ni, nid ar sail unrhyw weithredoedd o gyfiawnder a wnaethom ni, ond o'i drugaredd ei hun. Fe'n hachubodd ni trwy olchiad yr ailenedigaeth ac adnewyddiad gan yr Ysbryd Glân, a dywalltodd ef arnom ni yn helaeth drwy Iesu Grist, ein Gwaredwr. Ei ddiben oedd ein cyfiawnhau drwy ei ras, ac mewn gobaith, ein gwneud yn etifeddion bywyd tragwyddol. Dyna air i'w gredu. Ac y mae'n ddymuniad gennyf i ti fynnu hyn: bod y rhai a ddaeth i gredu yn Nuw i ofalu eu bod yn ymroi i weithredoedd da. Dyma gyngor da a buddiol i bawb.
Titus 3:4-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dyma garedigrwydd a chariad Duw ein Hachubwr yn dod i’r golwg. Wnaeth e ddim ein hachub ni am ein bod ni’n dda, ond am ei fod e’i hun mor drugarog! Golchodd ni’n lân o’n pechod a rhoi bywyd newydd i ni drwy’r Ysbryd Glân. Tywalltodd yr Ysbryd arnon ni’n hael o achos beth oedd Iesu Grist wedi’i wneud i’n hachub ni. Am ei fod wedi bod mor garedig â gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn, dŷn ni’n gwybod y byddwn ni’n etifeddu bywyd tragwyddol. Mae beth sy’n cael ei ddweud mor wir! Dyma’r pethau dw i am i ti eu pwysleisio, er mwyn i bawb sy’n credu yn Nuw fod ar y blaen yn gwneud daioni. Mae hynny’n beth da ynddo’i hun, ac mae’n gwneud lles i bawb.
Titus 3:4-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr pan ymddangosodd daioni a chariad Duw ein Hachubwr tuag at ddyn, Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ôl ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân; Yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr: Fel, gwedi ein cyfiawnhau trwy ei ras ef, y’n gwneid yn etifeddion yn ôl gobaith bywyd tragwyddol. Gwir yw’r gair, ac am y pethau hyn yr ewyllysiwn i ti fod yn daer, fel y byddo i’r sawl a gredasant i Dduw ofalu ar flaenori mewn gweithredoedd da. Y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion.