Titus 3:3-7
Titus 3:3-7 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Wedi’r cwbl, roedden ninnau hefyd yn ffôl ac yn anufudd ar un adeg – wedi’n camarwain, ac yn gaeth i bob math o chwantau a phleserau. Roedd ein bywydau ni’n llawn malais a chenfigen a chasineb. Roedd pobl yn ein casáu ni, a ninnau’n eu casáu nhw. Ond dyma garedigrwydd a chariad Duw ein Hachubwr yn dod i’r golwg. Wnaeth e ddim ein hachub ni am ein bod ni’n dda, ond am ei fod e’i hun mor drugarog! Golchodd ni’n lân o’n pechod a rhoi bywyd newydd i ni drwy’r Ysbryd Glân. Tywalltodd yr Ysbryd arnon ni’n hael o achos beth oedd Iesu Grist wedi’i wneud i’n hachub ni. Am ei fod wedi bod mor garedig â gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn, dŷn ni’n gwybod y byddwn ni’n etifeddu bywyd tragwyddol.
Titus 3:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd fe fuom ninnau hefyd un amser yn ffôl, yn anufudd, ar gyfeiliorn, yn gaethweision i amryfal chwantau a phleserau, a'n bywyd yn llawn malais a chenfigen, yn atgas gan eraill ac yn casáu ein gilydd. Ond pan amlygwyd daioni Duw, ein Gwaredwr, a'i gariad tuag at bobl, fe'n hachubodd ni, nid ar sail unrhyw weithredoedd o gyfiawnder a wnaethom ni, ond o'i drugaredd ei hun. Fe'n hachubodd ni trwy olchiad yr ailenedigaeth ac adnewyddiad gan yr Ysbryd Glân, a dywalltodd ef arnom ni yn helaeth drwy Iesu Grist, ein Gwaredwr. Ei ddiben oedd ein cyfiawnhau drwy ei ras, ac mewn gobaith, ein gwneud yn etifeddion bywyd tragwyddol.
Titus 3:3-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys yr oeddem ninnau hefyd gynt yn annoethion, yn anufudd, yn cyfeiliorni, yn gwasanaethu chwantau ac amryw felyswedd, gan fyw mewn drygioni a chenfigen, yn ddigasog, yn casáu ein gilydd. Eithr pan ymddangosodd daioni a chariad Duw ein Hachubwr tuag at ddyn, Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ôl ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân; Yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr: Fel, gwedi ein cyfiawnhau trwy ei ras ef, y’n gwneid yn etifeddion yn ôl gobaith bywyd tragwyddol.