Titus 3:3-5
Titus 3:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd fe fuom ninnau hefyd un amser yn ffôl, yn anufudd, ar gyfeiliorn, yn gaethweision i amryfal chwantau a phleserau, a'n bywyd yn llawn malais a chenfigen, yn atgas gan eraill ac yn casáu ein gilydd. Ond pan amlygwyd daioni Duw, ein Gwaredwr, a'i gariad tuag at bobl, fe'n hachubodd ni, nid ar sail unrhyw weithredoedd o gyfiawnder a wnaethom ni, ond o'i drugaredd ei hun. Fe'n hachubodd ni trwy olchiad yr ailenedigaeth ac adnewyddiad gan yr Ysbryd Glân
Titus 3:3-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wedi’r cwbl, roedden ninnau hefyd yn ffôl ac yn anufudd ar un adeg – wedi’n camarwain, ac yn gaeth i bob math o chwantau a phleserau. Roedd ein bywydau ni’n llawn malais a chenfigen a chasineb. Roedd pobl yn ein casáu ni, a ninnau’n eu casáu nhw. Ond dyma garedigrwydd a chariad Duw ein Hachubwr yn dod i’r golwg. Wnaeth e ddim ein hachub ni am ein bod ni’n dda, ond am ei fod e’i hun mor drugarog! Golchodd ni’n lân o’n pechod a rhoi bywyd newydd i ni drwy’r Ysbryd Glân.
Titus 3:3-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys yr oeddem ninnau hefyd gynt yn annoethion, yn anufudd, yn cyfeiliorni, yn gwasanaethu chwantau ac amryw felyswedd, gan fyw mewn drygioni a chenfigen, yn ddigasog, yn casáu ein gilydd. Eithr pan ymddangosodd daioni a chariad Duw ein Hachubwr tuag at ddyn, Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ôl ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân