Titus 3:1-3
Titus 3:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Atgoffa pobl fod rhaid iddyn nhw fod yn atebol i’r llywodraeth a’r awdurdodau. Dylen nhw fod yn ufudd bob amser ac yn barod i wneud daioni; peidio enllibio neb, peidio achosi dadleuon, ond bod yn ystyriol o bobl eraill, a bod yn addfwyn wrth drin pawb. Wedi’r cwbl, roedden ninnau hefyd yn ffôl ac yn anufudd ar un adeg – wedi’n camarwain, ac yn gaeth i bob math o chwantau a phleserau. Roedd ein bywydau ni’n llawn malais a chenfigen a chasineb. Roedd pobl yn ein casáu ni, a ninnau’n eu casáu nhw.
Titus 3:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dwg ar gof iddynt eu bod i ymostwng i'r awdurdodau sy'n llywodraethu, i fod yn ufudd iddynt, a bod yn barod i wneud unrhyw weithred dda; i beidio â bwrw anfri ar neb, ond i fod yn heddychol ac yn ystyriol, gan ddangos addfwynder yn gyson tuag at bawb. Oherwydd fe fuom ninnau hefyd un amser yn ffôl, yn anufudd, ar gyfeiliorn, yn gaethweision i amryfal chwantau a phleserau, a'n bywyd yn llawn malais a chenfigen, yn atgas gan eraill ac yn casáu ein gilydd.
Titus 3:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dwg ar gof iddynt fod yn ddarostyngedig i’r tywysogaethau a’r awdurdodau, fod yn ufudd, fod yn barod i bob gweithred dda, Bod heb gablu neb, yn anymladdgar, yn dirion, gan ddangos pob addfwynder tuag at bob dyn. Canys yr oeddem ninnau hefyd gynt yn annoethion, yn anufudd, yn cyfeiliorni, yn gwasanaethu chwantau ac amryw felyswedd, gan fyw mewn drygioni a chenfigen, yn ddigasog, yn casáu ein gilydd.