Titus 3:1-2
Titus 3:1-2 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Atgoffa pobl fod rhaid iddyn nhw fod yn atebol i’r llywodraeth a’r awdurdodau. Dylen nhw fod yn ufudd bob amser ac yn barod i wneud daioni; peidio enllibio neb, peidio achosi dadleuon, ond bod yn ystyriol o bobl eraill, a bod yn addfwyn wrth drin pawb.
Rhanna
Darllen Titus 3Titus 3:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dwg ar gof iddynt eu bod i ymostwng i'r awdurdodau sy'n llywodraethu, i fod yn ufudd iddynt, a bod yn barod i wneud unrhyw weithred dda; i beidio â bwrw anfri ar neb, ond i fod yn heddychol ac yn ystyriol, gan ddangos addfwynder yn gyson tuag at bawb.
Rhanna
Darllen Titus 3