Titus 2:11-14
Titus 2:11-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae Duw wedi dangos ei haelioni rhyfeddol drwy gynnig achub unrhyw un. Mae’n ein dysgu ni i ddweud “na” wrth ein pechod a’n chwantau bydol. Ein dysgu ni hefyd i fyw’n gyfrifol, gwneud beth sy’n iawn a rhoi’r lle canolog yn ein bywydau i Dduw. Dyna sut dylen ni fyw wrth ddisgwyl am y digwyddiad bendigedig hwnnw pan fydd Iesu Grist, ein Duw mawr a’n Hachubwr ni, yn dod yn ôl yn ei holl ysblander. Mae e wedi marw droson ni i’n rhyddhau ni o afael popeth drwg, ac i’n glanhau ni a’n gwneud ni’n bobl iddo fe’i hun – pobl sy’n frwd i wneud daioni.
Titus 2:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd amlygwyd gras Duw i ddwyn gwaredigaeth i bawb, gan ein hyfforddi i ymwrthod ag annuwioldeb a chwantau bydol, a byw'n ddisgybledig a chyfiawn a duwiol yn y byd presennol, a disgwyl cyflawni'r gobaith gwynfydedig yn ymddangosiad gogoniant ein Duw mawr a'n Gwaredwr, Iesu Grist. Rhoddodd ef ei hun drosom ni i brynu rhyddid inni oddi wrth bob anghyfraith, a'n glanhau ni i fod yn bobl wedi eu neilltuo iddo ef ei hun ac yn llawn sêl dros weithredoedd da.
Titus 2:11-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys ymddangosodd gras Duw, yr hwn sydd yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn; Gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron; Gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a’n Hiachawdwr Iesu Grist; Yr hwn a’i rhoddes ei hun drosom, i’n prynu ni oddi wrth bob anwiredd, ac i’n puro ni iddo ei hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da.