Caniad Solomon 8:6-9
Caniad Solomon 8:6-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gosod fi fel sêl ar dy galon, fel sêl-fodrwy ar dy law. Mae gafael cariad yn gryf fel marwolaeth, ac mae nwyd angerddol mor ddi-ildio â’r bedd. Mae ei fflamau’n fflachio’n wyllt, fel tân sy’n llosgi’n wenfflam. All dyfroedd y môr ddim diffodd cariad; all llifogydd mo’i ysgubo i ffwrdd. Petai rhywun yn cynnig ei gyfoeth i gyd amdano, byddai’n ddim byd ond testun sbort. Mae gynnon ni chwaer fach a’i bronnau heb dyfu. Beth wnawn ni i’w helpu pan gaiff ei haddo i’w phriodi? Os ydy hi’n saff fel wal, gallwn ei haddurno gyda thyrau arian! Os ydy hi fel drws, gallwn ei bordio gyda coed cedrwydd!
Caniad Solomon 8:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gosod fi fel sêl ar dy galon, fel sêl ar dy fraich; oherwydd y mae cariad mor gryf â marwolaeth, a nwyd mor greulon â'r bedd; y mae'n llosgi fel ffaglau tanllyd, fel fflam angerddol. Ni all dyfroedd lawer ddiffodd cariad, ac ni all afonydd ei foddi. Pe byddai rhywun yn cynnig holl gyfoeth ei dŷ am gariad, byddai hynny yn cael ei ddirmygu'n llwyr. Y mae gennym chwaer fach sydd heb fagu bronnau. Beth a wnawn i'n chwaer pan ofynnir amdani? Os mur yw hi, byddwn yn adeiladu caer arian arno; os drws, byddwn yn ei gau ag astell gedrwydd.
Caniad Solomon 8:6-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gosod fi megis sêl ar dy galon, fel sêl ar dy fraich: canys cariad sydd gryf fel angau; eiddigedd sydd greulon fel y bedd: ei farwor sydd farwor tanllyd, a fflam angerddol iddynt. Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi cariad, ac afonydd nis boddant: pe rhoddai ŵr holl gyfoeth ei dŷ am gariad, gan ddirmygu y dirmygid hynny. Y mae i ni chwaer fechan, ac nid oes fronnau iddi: beth a wnawn i’n chwaer y dydd y dyweder amdani? Os caer yw hi, ni a adeiladwn arni balas arian; ac os drws yw hi, ni a’i caewn hi ag ystyllod cedrwydd.