Caniad Solomon 7:10-12
Caniad Solomon 7:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf fi'n eiddo i'm cariad, ac yntau'n fy chwennych. Tyrd, fy nghariad, gad inni fynd allan i'r maes, a threulio'r nos ymysg y llwyni henna. Gad inni fynd yn fore i'r gwinllannoedd, i edrych a yw'r winwydden yn blaguro, a'i blodau yn agor, a'r pomgranadau yn blodeuo; yno fe ddangosaf fy nghariad tuag atat.
Caniad Solomon 7:10-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fy nghariad piau fi, ac mae f’eisiau. Tyrd, fy nghariad, gad i ni fynd i’r caeau; gad i ni dreulio’r nos rhwng y blodau henna. Gad i ni godi’n gynnar a mynd lawr i’r gwinllannoedd, i weld os ydy’r winwydden wedi blaguro a’u blodau wedi agor; ac i weld os ydy’r pomgranadau’n blodeuo – yno gwnaf roi fy hun i ti.
Caniad Solomon 7:10-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eiddo fy anwylyd ydwyf fi, ac ataf fi y mae ei ddymuniad ef. Tyred, fy anwylyd, awn i’r maes, a lletywn yn y pentrefi. Boregodwn i’r gwinllannoedd; edrychwn a flodeuodd y winwydden, a agorodd egin y grawnwin, a flodeuodd y pomgranadau: yno y rhoddaf fy nghariad i ti.