Caniad Solomon 4:1-15
Caniad Solomon 4:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Mor brydferth wyt, f'anwylyd, mor brydferth wyt! Y tu ôl i'th orchudd y mae dy lygaid fel colomennod, a'th wallt fel diadell o eifr yn dod i lawr o Fynydd Gilead. Y mae dy ddannedd fel diadell o ddefaid wedi eu cneifio yn dod i fyny o'r olchfa, y cwbl ohonynt yn efeilliaid, heb un yn amddifad. Y mae dy wefusau fel edau ysgarlad, a'th enau yn hyfryd; y tu ôl i'th orchudd y mae dy arlais fel darn o bomgranad. Y mae dy wddf fel tŵr Dafydd, wedi ei adeiladu, rhes ar res, a mil o estylch yn crogi arno, y cwbl ohonynt yn darianau rhyfelwyr. Y mae dy ddwy fron fel dwy elain, gefeilliaid ewig yn pori ymysg y lilïau. Cyn i awel y dydd godi, ac i'r cysgodion ddiflannu, fe af i'r mynydd myrr, ac i fryn y thus. Yr wyt i gyd yn brydferth, f'anwylyd; nid oes yr un brycheuyn arnat. O briodferch, tyrd gyda mi o Lebanon, tyrd gyda mi o Lebanon; tyrd i lawr o gopa Amana, ac o ben Senir a Hermon, o ffeuau'r llewod a mynyddoedd y llewpardiaid. Fy chwaer a'm priodferch, yr wyt wedi ennill fy nghalon, wedi ennill fy nghalon ag un edrychiad, ag un gem o'r gadwyn am dy wddf. Mor hyfryd yw dy gariad, fy chwaer a'm priodferch! Y mae dy gariad yn well na gwin, ac arogl dy bersawr yn hyfrytach na'r holl berlysiau. O briodferch, y mae dy wefusau'n diferu diliau mêl, y mae mêl a llaeth dan dy dafod, ac y mae arogl dy ddillad fel arogl Lebanon. Gardd wedi ei chau i mewn yw fy chwaer a'm priodferch, gardd wedi ei chau i mewn, ffynnon wedi ei selio. Y mae dy blanhigion yn berllan o bomgranadau, yn llawn o'r ffrwythau gorau, henna a nard, nard a saffrwn, calamus a sinamon, hefyd yr holl goed thus, myrr ac aloes a'r holl berlysiau gorau. Y mae'r ffynnon yn yr ardd yn ffynnon o ddyfroedd byw yn ffrydio o Lebanon.
Caniad Solomon 4:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O, rwyt mor hardd, f’anwylyd! O, rwyt mor hardd! Mae dy lygaid fel colomennod y tu ôl i’r fêl. Mae dy wallt du yn llifo fel praidd o eifr yn dod i lawr o fynydd Gilead. Mae dy ddannedd yn wyn fel rhes o ddefaid newydd eu cneifio a’u golchi. Maen nhw i gyd yn berffaith; does dim un ar goll. Mae dy wefusau fel edau goch, a’th geg mor siapus. Tu ôl i’r fêl mae dy fochau a’u gwrid fel pomgranadau. Mae dy wddf fel tŵr Dafydd a’r rhesi o gerrig o’i gwmpas; mil o darianau yn hongian arno, fel arfau milwyr arwrol. Mae dy fronnau yn berffaith fel dwy gasél ifanc, efeilliaid yn pori ymysg y lilïau. Rhaid i mi fynd a dringo mynydd myrr a bryn thus, ac aros yno hyd nes iddi wawrio ac i gysgodion y nos ddiflannu. Mae popeth amdanat mor hardd, f’anwylyd! Ti’n berffaith! Tyrd gyda mi o Libanus, fy nghariad, tyrd gyda mi o fryniau Libanus. Tyrd i lawr o gopa Amana, o ben Senir, sef copa Hermon. Tyrd i lawr o ffeuau’r llewod a lloches y llewpard. Ti wedi cipio fy nghalon, ferch annwyl, fy nghariad. Ti wedi cipio fy nghalon gydag un edrychiad, un em yn dy gadwyn. Mae dy gyffyrddiad mor hyfryd, ferch annwyl, fy nghariad. Mae dy anwesu cariadus gymaint gwell na gwin, ac arogl dy bersawr yn well na pherlysiau. Mae dy gusan yn felys, fy nghariad, yn diferu fel diliau mêl. Mae mêl a llaeth dan dy dafod, ac mae sawr dy ddillad fel persawr Libanus. Fy merch annwyl, fy nghariad – rwyt fel gardd breifat dan glo, yn ffynnon gaiff neb yfed ohoni. Rwyt yn ardd baradwysaidd o bomgranadau, yn llawn o’r ffrwyth gorau. Gardd bersawrus hudolus o henna hyfryd, nard a saffrwn, sbeisiau pêr a sinamon, thus o wahanol fathau, myrr ac aloes – pob un o’r perlysiau drutaf. Ti ydy’r ffynnon yn yr ardd – ffynnon o ddŵr glân gloyw yn llifo i lawr bryniau Libanus.
Caniad Solomon 4:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Wele di yn deg, fy anwylyd, wele di yn deg; dy lygaid ydynt golomennaidd rhwng dy lywethau; dy wallt sydd fel diadell o eifr, y rhai a ymddangosant o fynydd Gilead. Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid gwastatgnaif, y rhai a ddaethant i fyny o’r olchfa; y rhai oeddynt bob un yn dwyn dau oen, ac nid oedd un ynddynt yn ddiepil. Dy wefusau sydd fel edau ysgarlad, a’th barabl yn weddus: dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad. Dy wddf sydd fel tŵr Dafydd, yr hwn a adeiladwyd yn dŷ arfau; tarianau fil sydd yn crogi ynddo, i gyd yn estylch y cedyrn. Dy ddwy fron sydd fel dau lwdn iwrch o efeilliaid yn pori ymysg lili. Hyd oni wawrio’r dydd, a chilio o’r cysgodau, af i fynydd y myrr, ac i fryn y thus. Ti oll ydwyt deg, fy anwylyd; ac nid oes ynot frycheuyn. Tyred gyda mi o Libanus, fy nyweddi, gyda mi o Libanus: edrych o ben Amana, o gopa Senir a Hermon, o lochesau y llewod, o fynyddoedd y llewpardiaid. Dygaist fy nghalon, fy chwaer a’m dyweddi; dygaist fy nghalon ag un o’th lygaid, ag un gadwyn wrth dy wddf. Mor deg yw dy gariad, fy chwaer, a’m dyweddi! pa faint gwell yw dy gariad na gwin, ac arogl dy olew na’r holl beraroglau! Dy wefusau, fy nyweddi, sydd yn diferu fel dil mêl: y mae mêl a llaeth dan dy dafod, ac arogl dy wisgoedd fel arogl Libanus. Gardd gaeëdig yw fy chwaer, a’m dyweddi: ffynnon gloëdig, ffynnon seliedig yw. Dy blanhigion sydd berllan o bomgranadau, a ffrwyth peraidd, camffir, a nardus; Ie, nardus a saffrwn, calamus a sinamon, a phob pren thus, myrr, ac aloes, ynghyd â phob rhagorol berlysiau: Ffynnon y gerddi, ffynnon y dyfroedd byw, a ffrydiau o Libanus.