Caniad Solomon 3:1-5
Caniad Solomon 3:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bob nos ar fy ngwely ceisiais fy nghariad; fe'i ceisiais, ond heb ei gael. Mi godais, a mynd o amgylch y dref, trwy'r heolydd a'r strydoedd; chwiliais am fy nghariad; chwilio, ond heb ei gael. Daeth y gwylwyr i'm cyfarfod, wrth iddynt fynd o amgylch y dref, a gofynnais, “A welsoch chwi fy nghariad?” Ymhen ychydig wedi imi eu gadael, fe gefais fy nghariad; gafaelais ynddo, a gwrthod ei ollwng nes ei ddwyn i dŷ fy mam, i ystafell yr un a esgorodd arnaf. Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch yn enw iyrchod ac ewigod y maes. Peidiwch â deffro na tharfu f'anwylyd nes y bydd hi'n dymuno.
Caniad Solomon 3:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wrth orwedd ar fy ngwely yn y nos byddai gen i hiraeth am fy nghariad; dyheu am ei gwmni, ond methu ei gael. “Dw i’n mynd i godi i edrych amdano yn y dre – crwydro’r strydoedd a’r sgwariau yn chwilio am fy nghariad.” Dyheu am ei gwmni, ond methu ei gael. Dyma’r gwylwyr nos yn fy ngweld wrth grwydro ar batrôl o gwmpas y dre. Gofynnais, “Welsoch chi fy nghariad?” Prin rôn i wedi’u pasio pan ddes i o hyd i’m cariad! Gafaelais ynddo’n dynn a gwrthod ei ollwng nes mynd ag e i dŷ fy mam, i’w hystafell wely. Ferched Jerwsalem, dw i’n pledio arnoch o flaen y gasél a’r ewig gwyllt: Peidiwch trio cyffroi cariad rhywiol nes mae’n barod.
Caniad Solomon 3:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Lliw nos yn fy ngwely y ceisiais yr hwn a hoffa fy enaid: ceisiais ef, ac nis cefais. Codaf yn awr, ac af o amgylch y ddinas, trwy yr heolydd a’r ystrydoedd, ceisiaf yr hwn a hoffa fy enaid: ceisiais ef, ac nis cefais. Y gwylwyr, y rhai a aent o amgylch y ddinas, a’m cawsant: gofynnais, A welsoch chwi yr hwn sydd hoff gan fy enaid? Nid aethwn i nepell oddi wrthynt, hyd oni chefais yr hwn sydd hoff gan fy enaid: deliais ef, ac nis gollyngais, hyd oni ddygais ef i dŷ fy mam, ac i ystafell yr hon a’m hymddûg. Merched Jerwsalem, tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes, na chyffrôch ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.