Caniad Solomon 1:2-4
Caniad Solomon 1:2-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Tyrd, cusana fi drosodd a throsodd! Mae dy anwesu cariadus yn well na gwin, ac arogl dy bersawr mor hyfryd. Rwyt fel yr olew persawrus gorau – does dim syndod fod merched ifanc yn dy garu di. Tyrd, cymer fi gyda ti; gad i ni frysio! Fy mrenin, dos â fi i dy ystafell wely. Gad i ni fwynhau a chael pleser; mae profi gwefr dy gyffyrddiad yn well na gwin. Mae’n ddigon teg fod merched ifanc yn dy garu di.
Caniad Solomon 1:2-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cusana fi â chusanau dy wefusau, oherwydd y mae dy gariad yn well na gwin, ac arogl dy bersawr yn hyfryd, a'th enw fel persawr wedi ei wasgaru; dyna pam y mae merched yn dy garu. Tyn fi ar dy ôl, gad inni redeg gyda'n gilydd; cymer fi i'th ystafell, O frenin.
Caniad Solomon 1:2-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cusaned fi â chusanau ei fin: canys gwell yw dy gariad na gwin. Oherwydd arogl dy ennaint daionus, ennaint tywalltedig yw dy enw: am hynny y llancesau a’th garant. Tyn fi, ni a redwn ar dy ôl. Y brenin a’m dug i i’w ystafellau: ni a ymhyfrydwn ac a ymlawenhawn ynot; ni a gofiwn dy gariad yn fwy na gwin: y rhai uniawn sydd yn dy garu.