Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Caniad Solomon 1:2-14

Caniad Solomon 1:2-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Tyrd, cusana fi drosodd a throsodd! Mae dy anwesu cariadus yn well na gwin, ac arogl dy bersawr mor hyfryd. Rwyt fel yr olew persawrus gorau – does dim syndod fod merched ifanc yn dy garu di. Tyrd, cymer fi gyda ti; gad i ni frysio! Fy mrenin, dos â fi i dy ystafell wely. Gad i ni fwynhau a chael pleser; mae profi gwefr dy gyffyrddiad yn well na gwin. Mae’n ddigon teg fod merched ifanc yn dy garu di. Ferched Jerwsalem, mae fy nghroen yn ddu ond dw i’n hardd – yn dywyll fel pebyll duon pobl Cedar, a hardd fel llenni palas Solomon. Peidiwch syllu arna i am fy mod yn ddu a’r haul wedi rhoi croen tywyll i mi. Roedd fy mrodyr wedi gwylltio gyda mi, a gwneud i mi ofalu am y gwinllannoedd; ond methais ofalu amdana i fy hun. Fy nghariad, dywed wrtho i, Ble rwyt ti’n arwain dy ddefaid? Ble fyddan nhw’n gorffwys ganol dydd? Dwed wrtho i, rhag i mi orfod gwisgo fêl a chrwydro o gwmpas preiddiau dy ffrindiau. O’r harddaf o ferched! Os nad wyt yn gwybod, dilyn olion traed y praidd a bwyda dy eifr wrth wersyll y bugeiliaid. F’anwylyd, rwyt fel y gaseg ifanc harddaf sy’n tynnu cerbydau’r Pharo. Mae tlysau ar dy fochau hardd, a chadwyn o emau hyfryd am dy wddf. Dw i am roi tlysau aur i ti, wedi’u haddurno ag arian. Tra oedd fy mrenin yn gorwedd ar ei wely, roedd arogl fy mhersawr yn llenwi’r awyr. Mae fy nghariad fel cwdyn o fyrr hyfryd yn gorwedd drwy’r nos rhwng fy mronnau. Mae fy nghariad fel tusw o flodau henna o winllannoedd ffrwythlon En-gedi.