Caniad Solomon 1:1-11
Caniad Solomon 1:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Cân serch orau Solomon. Tyrd, cusana fi drosodd a throsodd! Mae dy anwesu cariadus yn well na gwin, ac arogl dy bersawr mor hyfryd. Rwyt fel yr olew persawrus gorau – does dim syndod fod merched ifanc yn dy garu di. Tyrd, cymer fi gyda ti; gad i ni frysio! Fy mrenin, dos â fi i dy ystafell wely. Gad i ni fwynhau a chael pleser; mae profi gwefr dy gyffyrddiad yn well na gwin. Mae’n ddigon teg fod merched ifanc yn dy garu di. Ferched Jerwsalem, mae fy nghroen yn ddu ond dw i’n hardd – yn dywyll fel pebyll duon pobl Cedar, a hardd fel llenni palas Solomon. Peidiwch syllu arna i am fy mod yn ddu a’r haul wedi rhoi croen tywyll i mi. Roedd fy mrodyr wedi gwylltio gyda mi, a gwneud i mi ofalu am y gwinllannoedd; ond methais ofalu amdana i fy hun. Fy nghariad, dywed wrtho i, Ble rwyt ti’n arwain dy ddefaid? Ble fyddan nhw’n gorffwys ganol dydd? Dwed wrtho i, rhag i mi orfod gwisgo fêl a chrwydro o gwmpas preiddiau dy ffrindiau. O’r harddaf o ferched! Os nad wyt yn gwybod, dilyn olion traed y praidd a bwyda dy eifr wrth wersyll y bugeiliaid. F’anwylyd, rwyt fel y gaseg ifanc harddaf sy’n tynnu cerbydau’r Pharo. Mae tlysau ar dy fochau hardd, a chadwyn o emau hyfryd am dy wddf. Dw i am roi tlysau aur i ti, wedi’u haddurno ag arian.
Caniad Solomon 1:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cân y caniadau, eiddo Solomon. Cusana fi â chusanau dy wefusau, oherwydd y mae dy gariad yn well na gwin, ac arogl dy bersawr yn hyfryd, a'th enw fel persawr wedi ei wasgaru; dyna pam y mae merched yn dy garu. Tyn fi ar dy ôl, gad inni redeg gyda'n gilydd; cymer fi i'th ystafell, O frenin. Gad inni lawenhau ac ymhyfrydu ynot, a chanmol dy gariad yn fwy na gwin; mor briodol yw iddynt dy garu! O ferched Jerwsalem, er fy mod yn dywyll fy lliw fel pebyll Cedar neu lenni pebyll Solomon, yr wyf yn brydferth. Peidiwch â rhythu arnaf am fy mod yn dywyll fy lliw, oherwydd i'r haul fy llosgi. Bu meibion fy mam yn gas wrthyf, a gwneud imi wylio'r gwinllannoedd; ond ni wyliais fy ngwinllan fy hun. Fy nghariad, dywed wrthyf ymhle'r wyt yn bugeilio'r praidd, ac yn gwneud iddynt orffwys ganol dydd. Pam y byddaf fel un yn crwydro wrth ymyl praidd dy gyfeillion? O ti, y decaf o ferched, os nad wyt yn gwybod, yna dilyn lwybrau'r defaid, a bugeilia dy fynnod gerllaw pebyll y bugeiliaid. F'anwylyd, yr wyf yn dy gyffelybu i feirch cerbydau Pharo. Mor brydferth yw dy ruddiau rhwng y plethi, a'th wddf gan emau. Fe wnawn iti gadwynau aur gydag addurniadau arian.
Caniad Solomon 1:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Can y caniadau, eiddo Solomon. Cusaned fi â chusanau ei fin: canys gwell yw dy gariad na gwin. Oherwydd arogl dy ennaint daionus, ennaint tywalltedig yw dy enw: am hynny y llancesau a’th garant. Tyn fi, ni a redwn ar dy ôl. Y brenin a’m dug i i’w ystafellau: ni a ymhyfrydwn ac a ymlawenhawn ynot; ni a gofiwn dy gariad yn fwy na gwin: y rhai uniawn sydd yn dy garu. Du ydwyf fi, ond hawddgar, merched Jerwsalem, fel pebyll Cedar, fel llenni Solomon. Nac edrychwch arnaf, am fy mod yn ddu, ac am i’r haul edrych arnaf: meibion fy mam a ddigiasant wrthyf, gosodasant fi i gadw gwinllannoedd eraill; fy ngwinllan fy hun nis cedwais. Mynega i mi, yr hwn a hoffodd fy enaid, pa le yr wyt yn bugeilio, pa le y gwnei iddynt orwedd ganol dydd: canys paham y byddaf megis un yn troi heibio wrth ddiadellau dy gyfeillion? Oni wyddost ti, y decaf o’r gwragedd, dos allan rhagot ar hyd ôl y praidd, a phortha dy fynnod gerllaw pebyll y bugeiliaid. I’r meirch yng ngherbydau Pharo y’th gyffelybais, fy anwylyd. Hardd yw dy ruddiau gan dlysau, a’th wddf gan gadwyni. Tlysau o aur, a boglynnau o arian, a wnawn i ti.