Ruth 4:14-17
Ruth 4:14-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dwedodd y gwragedd wrth Naomi, “Bendith ar yr ARGLWYDD! Wnaeth e ddim dy adael heb berthynas i ofalu amdanat ti! Bydd e’n enwog yn Israel. Bydd e’n rhoi bywyd yn ôl i ti. Bydd e’n gofalu amdanat yn dy henaint. Mae dy ferch-yng-nghyfraith sy’n dy garu di wedi rhoi genedigaeth iddo – ac mae hi’n well na saith mab i ti!” A dyma Naomi yn cymryd y bachgen ar ei gliniau a’i fagu. Rhoddodd y gwragedd lleol enw iddo, sef Obed, a dweud, “Mae Naomi wedi cael mab!” Obed oedd tad Jesse a thaid y Brenin Dafydd.
Ruth 4:14-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac meddai'r gwragedd wrth Naomi, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD am iddo beidio â'th adael heddiw heb berthynas; bydded ef yn enwog yn Israel. Bydd ef yn adnewyddu dy fywyd ac yn dy gynnal yn dy henaint, oherwydd dy ferch-yng-nghyfraith, sy'n dy garu, yw ei fam; ac y mae hi'n well na saith o feibion i ti.” Cymerodd Naomi y bachgen a'i ddodi yn ei chôl a'i fagu. Rhoddodd y cymdogesau enw iddo a dweud, “Ganwyd mab i Naomi.” Galwasant ef Obed; ef oedd tad Jesse, tad Dafydd.
Ruth 4:14-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r gwragedd a ddywedasant wrth Naomi, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn ni’th adawodd di heb gyfathrachwr heddiw, fel y gelwid ei enw ef yn Israel. Ac efe fydd i ti yn adferwr einioes, ac yn ymgeleddwr i’th benwynni: canys dy waudd, yr hon a’th gâr di, a blantodd iddo ef, a hon sydd well i ti na saith o feibion. A Naomi a gymerth y plentyn, ac a’i gosododd ef yn ei mynwes, ac a fu famaeth iddo. A’i chymdogesau a roddasant iddo enw, gan ddywedyd, Ganwyd mab i Naomi; ac a alwasant ei enw ef Obed: hwn oedd dad Jesse, tad Dafydd.