Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ruth 3:1-18

Ruth 3:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yna dywedodd ei mam-yng-nghyfraith Naomi wrthi, “Fy merch, oni ddylwn i chwilio am gartref iti, er dy les? Yn awr, onid perthynas i ni yw Boas, y buost gyda'i lancesau? Edrych, y mae ef yn mynd i nithio haidd yn y llawr dyrnu heno. Wedi iti ymolchi ac ymbincio a rhoi dy wisg orau amdanat, dos at y llawr dyrnu, ond paid â gadael iddo d'adnabod nes iddo orffen bwyta ac yfed. Pan â i orwedd, sylwa ymhle y mae'n cysgu, yna dos a chodi'r dillad o gwmpas ei draed a gorwedd i lawr. Wedyn fe ddywed ef wrthyt beth i'w wneud.” Cytunodd hithau i wneud y cwbl a ddywedodd Naomi wrthi. Aeth at y llawr dyrnu, a gwneud yn union fel yr oedd ei mam-yng-nghyfraith wedi gorchymyn iddi. Wedi i Boas fwyta ac yfed, yr oedd yn teimlo'n hapus, ac aeth i gysgu yng nghwr y pentwr ŷd. Daeth hithau'n ddistaw a chodi'r dillad o gwmpas ei draed, a gorwedd i lawr. Tua hanner nos cyffrôdd y dyn a throi, ac yno'n gorwedd wrth ei draed yr oedd merch. “Pwy wyt ti?” gofynnodd. Atebodd hithau, “Dy forwyn Ruth; taena gwr dy fantell dros dy forwyn, oherwydd yr wyt ti'n berthynas agos.” Yna dywedodd wrthi, “Bendith yr ARGLWYDD arnat, fy merch; y mae'r teyrngarwch olaf hwn gennyt yn rhagori ar y cyntaf, am iti beidio â mynd ar ôl y dynion ifainc, boent dlawd neu gyfoethog. Yn awr, fy merch, paid ag ofni; fe wnaf iti bopeth yr wyt yn ei ddweud, oherwydd y mae pawb o'm cymdogion yn gwybod dy fod yn ferch deilwng. Yn awr, y mae'n hollol wir fy mod yn berthynas agos, ond y mae un arall sy'n nes na mi. Aros yma heno; ac yfory, os bydd ef am weithredu fel perthynas, popeth yn iawn; gwnaed hynny. Ond os nad yw'n barod i wneud hynny, yna fe wnaf fi, cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw. Cwsg tan y bore.” Cysgodd hithau wrth ei draed tan y bore; yna fe gododd, cyn y gallai neb adnabod ei gilydd. Yr oedd ef wedi gorchymyn nad oedd neb i wybod bod y ferch wedi dod i'r llawr dyrnu. Ac meddai wrthi, “Estyn y fantell sydd amdanat, a dal hi.” A thra oedd hi yn ei dal, mesurodd yntau iddi chwe mesur o haidd a'i osod ar ei hysgwydd, ac aeth hithau i'r dref. Wedi iddi gyrraedd gofynnodd ei mam-yng-nghyfraith, “Sut y bu hi gyda thi, fy merch?” Adroddodd hithau wrthi'r cwbl a wnaeth y dyn iddi. Dywedodd, “Rhoddodd imi'r chwe mesur hyn o haidd oherwydd, meddai wrthyf, ‘Ni chei fynd yn waglaw at dy fam-yng-nghyfraith’.” Yna dywedodd Naomi, “Aros, fy merch, nes y cei wybod sut y try pethau; oherwydd ni fydd y dyn yna'n gorffwys cyn gorffen y mater heddiw.”

Ruth 3:1-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma Naomi yn dweud wrth Ruth, “Fy merch, dylwn i fod wedi chwilio am gartref i ti, er dy les di. Nawr, mae Boas, y dyn buost ti’n gweithio gyda’i ferched e, yn berthynas agos i ni. Gwranda, heno mae’n mynd i nithio haidd ar y llawr dyrnu. Dos i ymolchi, rhoi colur, a gwisgo dy ddillad gorau, ac wedyn mynd i lawr i’r llawr dyrnu. Ond paid gadael iddo wybod dy fod ti yno nes bydd e wedi gorffen bwyta ac yfed. Yna, pan fydd e’n setlo i lawr i gysgu, sylwa ble mae e’n gorwedd. Dos ato a choda’r dillad wrth ei goesau, a gorwedd i lawr. Bydd e’n dweud wrthot ti beth i’w wneud.” Cytunodd Ruth, ac aeth i lawr i’r llawr dyrnu a gwneud yn union fel roedd ei mam-yng-nghyfraith wedi dweud wrthi. Ar ôl bwyta ac yfed roedd Boas yn teimlo’n fodlon braf. Aeth i gysgu wrth ymyl pentwr o ŷd. A dyma Ruth yn mynd ato yn ddistaw bach a chodi’r dillad wrth ei goesau a gorwedd i lawr. Yna ganol nos dyma Boas yn aflonyddu ac yn troi drosodd a ffeindio merch yn gorwedd wrth ei draed. “Pwy wyt ti?” gofynnodd iddi. “Ruth, dy forwyn di,” atebodd. “Wnei di ofalu amdana i? Ti ydy’r perthynas agosaf, yr un sy’n gyfrifol am y teulu.” “Bendith Duw arnat ti, merch i,” meddai Boas. “Ti’n dangos cymaint o ymroddiad. Mae beth rwyt ti’n wneud nawr yn well na’r hyn wyt wedi’i wneud yn barod. Gallet ti fod wedi mynd ar ôl un o’r dynion ifanc, boed hwnnw’n dlawd neu’n gyfoethog. Nawr te, merch i, paid poeni. Bydda i’n gwneud popeth rwyt ti wedi’i ofyn i mi. Mae’r dre i gyd yn gwybod dy fod ti’n ferch dda. Mae’n wir fy mod i’n berthynas agos i ti, ond mae yna un sy’n perthyn yn agosach. Aros yma heno. Yn y bore, os bydd e am weithredu fel y perthynas sydd i ofalu amdanat ti, iawn. Ond os fydd e’n dewis peidio dw i’n addo’n bendant i ti y bydda i’n dy briodi di. Cysga yma tan y bore.” Felly dyma Ruth yn cysgu wrth ymyl Boas tan y bore. Dyma hi’n deffro cyn iddi oleuo. Dwedodd Boas wrthi, “Does neb i gael gwybod fod merch wedi bod i’r llawr dyrnu.” Yna dwedodd, “Tyrd, estyn y siôl wyt ti’n ei gwisgo. Dal hi allan.” Dyma hi’n gwneud hynny, a dyma Boas yn rhoi tua 35 cilogram o haidd iddi, ac yna ei godi ar ei hysgwydd. A dyma Ruth yn mynd adre. Pan gyrhaeddodd adre dyma Naomi, ei mam-yng-nghyfraith, yn gofyn iddi, “Sut aeth hi, merch i?” Dyma Ruth yn dweud am bopeth roedd y dyn wedi’i wneud iddi. Ac meddai, “Mae e wedi rhoi’r haidd yma i mi – mae yma tua 35 cilogram! Dwedodd wrtho i. ‘Paid mynd yn ôl at dy fam-yng-nghyfraith yn waglaw,’” Ac meddai Naomi, “Disgwyl di, merch i, i ni gael gweld sut fydd pethau yn troi allan. Fydd y dyn yma ddim yn gorffwys nes bydd e wedi setlo’r mater heddiw.”

Ruth 3:1-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yna Naomi ei chwegr a ddywedodd wrthi, Fy merch, oni cheisiaf fi orffwystra i ti, fel y byddo da i ti? Ac yn awr onid yw Boas o’n cyfathrach ni, yr hwn y buost ti gyda’i lancesi? Wele efe yn nithio haidd y nos hon yn y llawr dyrnu. Ymolch gan hynny, ac ymira, a gosod dy ddillad amdanat, a dos i waered i’r llawr dyrnu: na fydd gydnabyddus i’r gŵr, nes darfod iddo fwyta ac yfed. A phan orweddo efe, yna dal ar y fan y gorweddo efe ynddi; a dos, a dinoetha ei draed ef, a gorwedd; ac efe a fynega i ti yr hyn a wnelych. A hi a ddywedodd wrthi, Gwnaf yr hyn oll a erchaist i mi. A hi a aeth i waered i’r llawr dyrnu, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai ei chwegr iddi. Ac wedi i Boas fwyta ac yfed, fel y llawenhaodd ei galon, efe a aeth i gysgu i gwr yr ysgafn. Hithau a ddaeth yn ddistaw, ac a ddinoethodd ei draed, ac a orweddodd. Ac yng nghanol y nos y gŵr a ofnodd, ac a ymdrôdd: ac wele wraig yn gorwedd wrth ei draed ef. Ac efe a ddywedodd, Pwy ydwyt ti? A hi a ddywedodd, Myfi yw Ruth dy lawforwyn: lleda gan hynny dy adain dros dy lawforwyn, canys fy nghyfathrachwr i ydwyt ti. Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddych, fy merch, gan yr ARGLWYDD: dangosaist fwy o garedigrwydd yn y diwedd, nag yn y dechrau; gan nad aethost ar ôl gwŷr ieuainc, na thlawd na chyfoethog. Ac yn awr, fy merch, nac ofna; yr hyn oll a ddywedaist, a wnaf i ti: canys holl ddinas fy mhobl a ŵyr mai gwraig rinweddol ydwyt ti. Ac yn awr gwir yw fy mod i yn gyfathrachwr agos: er hynny y mae cyfathrachwr nes na myfi. Aros heno; a’r bore, os efe a wna ran cyfathrachwr â thi, da; gwnaed ran cyfathrachwr: ond os efe ni wna ran cyfathrachwr â thi; yna myfi a wnaf ran cyfathrachwr â thi, fel mai byw yr ARGLWYDD: cwsg hyd y bore. A hi a orweddodd wrth ei draed ef hyd y bore: a hi a gyfododd cyn yr adwaenai neb ei gilydd. Ac efe a ddywedodd, Na chaffer gwybod dyfod gwraig i’r llawr dyrnu. Ac efe a ddywedodd, Moes dy fantell sydd amdanat, ac ymafael ynddi. A hi a ymaflodd ynddi; ac efe a fesurodd chwe mesur o haidd, ac a’i gosododd arni: a hi a aeth i’r ddinas. A phan ddaeth hi at ei chwegr, hi a ddywedodd, Pwy ydwyt ti, fy merch? A hi a fynegodd iddi yr hyn oll a wnaethai y gŵr iddi hi. A hi a ddywedodd, Y chwe mesur hyn o haidd a roddodd efe i mi: canys dywedodd wrthyf, Nid ei yn waglaw at dy chwegr. Yna y dywedodd hithau, Aros fy merch, oni wypech pa fodd y digwyddo y peth hyn: canys ni orffwys y gŵr, nes gorffen y peth hyn heddiw.