Ruth 2:5-7
Ruth 2:5-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna gofynnodd Boas i’r gwas oedd yn gofalu am y gweithwyr, “I bwy mae’r ferch acw’n perthyn?” “Hi ydy’r ferch o Moab ddaeth yn ôl gyda Naomi,” atebodd hwnnw. “Gofynnodd ganiatâd i gasglu grawn rhwng yr ysgubau tu ôl i’r gweithwyr. Mae hi wedi bod wrthi’n ddi-stop ers ben bore, a dim ond newydd eistedd i orffwys.”
Ruth 2:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna gofynnodd Boas i'w was oedd yn gofalu am y medelwyr, “Geneth pwy yw hon?” Atebodd y gwas, “Geneth o Moab ydyw; hi a ddaeth yn ôl gyda Naomi o wlad Moab. Gofynnodd am ganiatâd i loffa a hel rhwng yr ysgubau ar ôl y medelwyr. Fe ddaeth, ac y mae wedi bod ar ei thraed o'r bore bach hyd yn awr, heb orffwys o gwbl.”
Ruth 2:5-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y dywedodd Boas wrth ei was yr hwn oedd yn sefyll yn ymyl y medelwyr, Pwy biau y llances hon? A’r gwas yr hwn oedd yn sefyll wrth y medelwyr a atebodd, ac a ddywedodd, Y llances o Moab ydyw hi, yr hon a ddychwelodd gyda Naomi o wlad Moab: A hi a ddywedodd, Atolwg yr ydwyf gael lloffa, a chasglu ymysg yr ysgubau ar ôl y medelwyr: a hi a ddaeth, ac a arhosodd er y bore hyd yr awr hon, oddieithr aros ohoni hi ychydig yn tŷ.