Ruth 1:15-16
Ruth 1:15-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dwedodd Naomi wrthi, “Edrych, mae dy chwaer-yng-nghyfraith wedi mynd yn ôl at ei phobl a’i duw ei hun. Dos dithau ar ei hôl hi.” Ond atebodd Ruth, “Paid rhoi pwysau arna i i dy adael di a throi cefn arnat ti. Dw i am fynd ble bynnag fyddi di yn mynd. A dw i’n mynd i aros ble bynnag fyddi di’n aros. Bydd dy bobl di yn bobl i mi, a dy Dduw di yn Dduw i mi.
Ruth 1:15-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A dywedodd Naomi, “Edrych, y mae dy chwaer-yng-nghyfraith wedi mynd yn ôl at ei phobl a'i duw; dychwel dithau ar ei hôl.” Ond meddai Ruth, “Paid â'm hannog i'th adael, na throi'n ôl oddi wrthyt, oherwydd i ble bynnag yr ei di, fe af finnau; ac ym mhle bynnag y byddi di'n aros, fe arhosaf finnau; dy bobl di fydd fy mhobl i, a'th Dduw di fy Nuw innau.
Ruth 1:15-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dywedodd Naomi, Wele, dy chwaer yng nghyfraith a ddychwelodd at ei phobl, ac at ei duwiau: dychwel dithau ar ôl dy chwaer yng nghyfraith. A Ruth a ddywedodd, Nac erfyn arnaf fi ymado â thi, i gilio oddi ar dy ôl di: canys pa le bynnag yr elych di, yr af finnau; ac ym mha le bynnag y lletyech di, y lletyaf finnau: dy bobl di fydd fy mhobl i, a’th DDUW di fy NUW innau