Ruth 1:14-18
Ruth 1:14-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma nhw’n dechrau crio’n uchel eto. Wedyn dyma Orpa’n rhoi cusan i ffarwelio â Naomi. Ond roedd Ruth yn ei chofleidio’n dynn ac yn gwrthod gollwng gafael. Dwedodd Naomi wrthi, “Edrych, mae dy chwaer-yng-nghyfraith wedi mynd yn ôl at ei phobl a’i duw ei hun. Dos dithau ar ei hôl hi.” Ond atebodd Ruth, “Paid rhoi pwysau arna i i dy adael di a throi cefn arnat ti. Dw i am fynd ble bynnag fyddi di yn mynd. A dw i’n mynd i aros ble bynnag fyddi di’n aros. Bydd dy bobl di yn bobl i mi, a dy Dduw di yn Dduw i mi. Ble bynnag fyddi di’n marw, dyna lle fyddai i’n marw ac yn cael fy nghladdu. Boed i Dduw ddial arna i os bydd unrhyw beth ond marwolaeth yn ein gwahanu ni’n dwy.” Pan welodd Naomi fod Ruth yn benderfynol o fynd gyda hi, ddwedodd hi ddim mwy am y peth.
Ruth 1:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wylodd y ddwy yn uchel eto; yna ffarweliodd Orpa â'i mam-yng-nghyfraith, ond glynodd Ruth wrthi. A dywedodd Naomi, “Edrych, y mae dy chwaer-yng-nghyfraith wedi mynd yn ôl at ei phobl a'i duw; dychwel dithau ar ei hôl.” Ond meddai Ruth, “Paid â'm hannog i'th adael, na throi'n ôl oddi wrthyt, oherwydd i ble bynnag yr ei di, fe af finnau; ac ym mhle bynnag y byddi di'n aros, fe arhosaf finnau; dy bobl di fydd fy mhobl i, a'th Dduw di fy Nuw innau. Lle y byddi di farw, y byddaf finnau farw ac yno y'm cleddir. Fel hyn y gwnelo'r ARGLWYDD i mi, a rhagor, os bydd unrhyw beth ond angau yn ein gwahanu ni.” Gwelodd Naomi ei bod yn benderfynol o fynd gyda hi, ac fe beidiodd â'i hannog rhagor.
Ruth 1:14-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant eilwaith: ac Orpa a gusanodd ei chwegr; ond Ruth a lynodd wrthi hi. A dywedodd Naomi, Wele, dy chwaer yng nghyfraith a ddychwelodd at ei phobl, ac at ei duwiau: dychwel dithau ar ôl dy chwaer yng nghyfraith. A Ruth a ddywedodd, Nac erfyn arnaf fi ymado â thi, i gilio oddi ar dy ôl di: canys pa le bynnag yr elych di, yr af finnau; ac ym mha le bynnag y lletyech di, y lletyaf finnau: dy bobl di fydd fy mhobl i, a’th DDUW di fy NUW innau: Lle y byddych di marw, y byddaf finnau farw, ac yno y’m cleddir; fel hyn y gwnelo yr ARGLWYDD i mi, ac fel hyn y chwanego, os dim ond angau a wna ysgariaeth rhyngof fi a thithau. Pan welodd hi ei bod hi wedi ymroddi i fyned gyda hi, yna hi a beidiodd â dywedyd wrthi hi.