Ruth 1:1-5
Ruth 1:1-5 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Yn ystod cyfnod y barnwyr buodd yna newyn yn y wlad. Felly aeth rhyw ddyn o Bethlehem yn Jwda i fyw i wlad Moab dros dro. Aeth â’i wraig a’i ddau fab gydag e. Elimelech oedd enw’r dyn, a Naomi oedd ei wraig. Machlon a Cilion oedd enwau’r ddau fab. Pobl o Effratha oedden nhw (sef yr hen enw ar Bethlehem yn Jwda). Dyma nhw’n mynd i wlad Moab ac yn aros yno. Ond wedyn dyma Elimelech, gŵr Naomi, yn marw, a’i gadael hi yn weddw gyda’i dau fab. Priododd y ddau fab ferched o wlad Moab. (Orpa oedd enw un, a Ruth oedd y llall.) Ar ôl iddyn nhw fod yno am tua deg mlynedd, dyma Machlon a Cilion yn marw hefyd. Cafodd Naomi ei gadael heb feibion a heb ŵr.
Ruth 1:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn ystod y cyfnod pan oedd y barnwyr yn llywodraethu, bu newyn yn y wlad, ac aeth dyn o Fethlehem Jwda gyda'i wraig a'i ddau fab i fyw dros dro yng ngwlad Moab. Elimelech oedd enw'r dyn, Naomi oedd enw ei wraig, a Mahlon a Chilion oedd enwau'r ddau fab. Effrateaid o Fethlehem Jwda oeddent, ac aethant i wlad Moab ac aros yno. Ond bu farw Elimelech, gŵr Naomi, a gadawyd hi'n weddw gyda'i dau fab. Priododd y ddau â merched o Moab; Orpa oedd enw'r naill a Ruth oedd enw'r llall. Wedi iddynt fod yno tua deng mlynedd, bu farw Mahlon a Chilion ill dau; a gadawyd y wraig yn amddifad o'i dau blentyn yn ogystal ag o'i gŵr.
Ruth 1:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu, yn y dyddiau yr oedd y brawdwyr yn barnu, fod newyn yn y wlad: a gŵr o Bethlehem Jwda a aeth i ymdeithio yng ngwlad Moab, efe a’i wraig, a’i ddau fab. Ac enw y gŵr oedd Elimelech, ac enw ei wraig Naomi, ac enw ei ddau fab Mahlon a Chilion, Effrateaid o Bethlehem Jwda. A hwy a ddaethant i wlad Moab, ac a fuant yno. Ac Elimelech gŵr Naomi a fu farw; a hithau a’i dau fab a adawyd. A hwy a gymerasant iddynt wragedd o’r Moabesau; enw y naill oedd Orpa, ac enw y llall, Ruth. A thrigasant yno ynghylch deng mlynedd. A Mahlon a Chilion a fuant feirw hefyd ill dau; a’r wraig a adawyd yn amddifad o’i dau fab, ac o’i gŵr.