Rhufeiniaid 9:6-13
Rhufeiniaid 9:6-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond ni ellir dweud bod gair Duw wedi methu. Oherwydd nid yw pawb sydd o linach Israel yn wir Israel. Ac ni ellir dweud bod pawb ohonynt, am eu bod yn ddisgynyddion Abraham, yn blant gwirioneddol iddo. Yn hytrach, yng ngeiriau'r Ysgrythur, “Trwy Isaac y gelwir dy ddisgynyddion.” Hynny yw, nid y plant o linach naturiol Abraham, nid y rheini sy'n blant i Dduw. Yn hytrach, plant yr addewid sy'n cael eu cyfrif yn ddisgynyddion. Oherwydd dyma air yr addewid: “Mi ddof yn yr amser hwnnw, a chaiff Sara fab.” Ond y mae enghraifft arall hefyd. Beichiogodd Rebeca o gyfathrach ag un dyn, sef ein tad Isaac. Eto i gyd, cyn geni'r plant a chyn iddynt wneud dim, na da na drwg (fel bod bwriad Duw, sy'n gweithredu trwy etholedigaeth, yn dal mewn grym, yn dibynnu nid ar weithredoedd dynol ond ar yr hwn sy'n galw), fe ddywedwyd wrthi, “Bydd yr hynaf yn gwasanaethu'r ieuengaf.” Fel y mae'n ysgrifenedig: “Jacob, fe'i cerais, ond Esau, fe'i caseais.”
Rhufeiniaid 9:6-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dydy Duw ddim wedi torri ei air! Na! Achos dydy pawb sy’n perthyn i wlad Israel ddim yn bobl Israel go iawn. A dydy profi eich bod chi’n ddisgynyddion i Abraham ddim yn golygu eich bod wir yn blant iddo. Beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud ydy, “Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw.” Hynny ydy, dydy pawb sy’n perthyn i deulu Abraham ddim yn blant Duw. Y rhai sy’n blant go iawn i Abraham ydy’r rhai sy’n blant o ganlyniad i addewid Duw. Dyma’r addewid wnaeth Duw: “Bydda i’n dod yn ôl yr adeg yma y flwyddyn nesa, a bydd Sara yn cael mab.” Ac wedyn rhaid cofio beth ddigwyddodd i’r gefeilliaid gafodd Isaac a Rebecca. A chofiwch fod hyn wedi digwydd cyn iddyn nhw gael eu geni, pan oedden nhw heb wneud dim byd drwg na da (sy’n dangos fod Duw’n gwneud beth mae’n ei addo yn ei ffordd ei hun. Fe sy’n dewis, dim beth dŷn ni’n ei wneud sy’n cyfri.) Dwedodd Duw wrth Rebecca, “Bydd y mab hynaf yn was i’r ifancaf.” Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Dw i wedi caru Jacob, ond gwrthod Esau.”
Rhufeiniaid 9:6-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr nid posibl yw myned gair Duw yn ddi-rym: canys nid Israel yw pawb a’r sydd o Israel. Ac nid ydynt, oblegid eu bod yn had Abraham, i gyd yn blant; eithr, Yn Isaac y gelwir i ti had. Hynny ydyw, Nid plant y cnawd, y rhai hynny sydd blant i Dduw; eithr plant yr addewid a gyfrifir yn had. Canys gair yr addewid yw hwn; Ar yr amser hwn y deuaf, a bydd mab i Sara. Ac nid hyn yn unig; eithr Rebeca hefyd, wedi iddi feichiogi o un, sef o’n tad Isaac; (Canys cyn geni y plant eto, na gwneuthur ohonynt dda na drwg, fel y byddai i’r arfaeth yn ôl etholedigaeth Duw sefyll, nid o weithredoedd, eithr o’r hwn sydd yn galw;) Y dywedwyd wrthi, Yr hynaf a wasanaetha’r ieuangaf. Megis yr ysgrifennwyd, Jacob a gerais, eithr Esau a gaseais.