Rhufeiniaid 9:15-18
Rhufeiniaid 9:15-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dwedodd Duw wrth Moses, “Fi sy’n dewis pwy i drugarhau wrthyn nhw, a phwy dw i’n mynd i dosturio wrthyn nhw.” Hynny ydy, trugaredd Duw sydd tu ôl i’r cwbl, dim beth dŷn ni eisiau neu beth dŷn ni’n ei gyflawni. Yn ôl yr ysgrifau sanctaidd dwedodd Duw wrth y Pharo: “Dyma pam wnes i dy godi di – er mwyn dangos trwot ti mor bwerus ydw i, ac er mwyn i bawb drwy’r byd i gyd ddod i wybod amdana i.” Felly mae Duw yn dangos trugaredd at bwy bynnag mae’n ei ddewis, ac mae hefyd yn gwneud pwy bynnag mae’n ei ddewis yn ystyfnig.
Rhufeiniaid 9:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'n dweud wrth Moses: “Trugarhaf wrth bwy bynnag y trugarhaf wrtho, a thosturiaf wrth bwy bynnag y tosturiaf wrtho.” Felly, nid mater o ewyllys neu o ymdrech ddynol ydyw, ond o drugaredd Duw. Fel y dywedir wrth Pharo yn yr Ysgrythur, “Fy union amcan wrth dy godi di oedd dangos fy ngallu ynot ti, a chyhoeddi fy enw trwy'r holl ddaear.” Gwelir, felly, fod Duw yn trugarhau wrth unrhyw un a fyn, a'i fod yn gwneud unrhyw un a fyn yn wargaled.
Rhufeiniaid 9:15-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys y mae yn dywedyd wrth Moses, Mi a drugarhaf wrth yr hwn y trugarhawyf, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf. Felly gan hynny nid o’r hwn sydd yn ewyllysio y mae, nac o’r hwn sydd yn rhedeg chwaith; ond o Dduw, yr hwn sydd yn trugarhau. Canys y mae’r ysgrythur yn dywedyd wrth Pharo, I hyn yma y’th gyfodais di, fel y dangoswn fy ngallu ynot ti, ac fel y datgenid fy enw trwy’r holl ddaear. Felly gan hynny y neb y mynno y mae efe yn trugarhau wrtho, a’r neb y mynno y mae efe yn ei galedu.