Rhufeiniaid 8:5-7
Rhufeiniaid 8:5-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r rhai sy’n cael eu rheoli gan y natur bechadurus yn byw i’r hunan, ond mae’r rhai sydd dan reolaeth yr Ysbryd Glân yn byw i wneud beth mae’r Ysbryd eisiau. Os mai’r hunan sy’n eich rheoli chi, byddwch chi’n marw. Ond os ydy’r Ysbryd Glân yn eich rheoli chi, mae gynnoch chi fywyd a heddwch perffaith gyda Duw. Mae’r natur bechadurus yn ymladd yn erbyn Duw. Does ganddi ddim eisiau gwneud beth mae Cyfraith Duw’n ei ofyn – yn wir, dydy hi ddim yn gallu!
Rhufeiniaid 8:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd y sawl sydd â'u bodolaeth ar wastad y cnawd, ar bethau'r cnawd y mae eu bryd; ond y sawl sydd ar wastad yr Ysbryd, ar bethau'r Ysbryd y mae eu bryd. Yn wir, y mae bod â'n bryd ar y cnawd yn farwolaeth, ond y mae bod â'n bryd ar yr Ysbryd yn fywyd a heddwch. Oherwydd y mae bod â'n bryd ar y cnawd yn elyniaeth tuag at Dduw; nid yw hynny, ac ni all fod, yn ddarostyngiad i Gyfraith Duw.
Rhufeiniaid 8:5-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys y rhai sydd yn ôl y cnawd, am bethau’r cnawd y maent yn synio: eithr y rhai sydd yn ôl yr Ysbryd, am bethau’r Ysbryd. Canys syniad y cnawd, marwolaeth yw; a syniad yr ysbryd, bywyd a thangnefedd yw: Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw: canys nid yw ddarostyngedig i ddeddf Duw; oblegid nis gall chwaith.