Rhufeiniaid 8:38-39
Rhufeiniaid 8:38-39 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dw i’n hollol sicr fod dim byd yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth ei gariad e. Dydy marwolaeth ddim yn gallu, na’r un profiad gawn ni mewn bywyd chwaith. Dydy angylion ddim yn gallu, na phwerau ysbrydol drwg. Dim byd yn y presennol nac yn y dyfodol. Dim byd ym mhellteroedd eitha’r gofod nac yn nyfnderoedd y ddaear! Na, does dim yn y bydysawd yma greodd Duw yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yn ein Harglwydd ni, y Meseia Iesu!
Rhufeiniaid 8:38-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na'r presennol na'r dyfodol, na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Rhufeiniaid 8:38-39 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys y mae’n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.