Rhufeiniaid 8:35-39
Rhufeiniaid 8:35-39 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Oes yna rywbeth sy’n gallu’n gwahanu ni oddi wrth gariad y Meseia? Nac oes, dim byd! Dydy poen ddim yn gallu, na dioddefaint, cael ein herlid, newyn na noethni, peryglon na hyd yn oed cael ein lladd! Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “O’th achos di dŷn ni’n wynebu marwolaeth drwy’r amser; Dŷn ni fel defaid ar eu ffordd i’r lladd-dy.” Ond dŷn ni’n concro’r cwbl i gyd, a mwy, am fod y Meseia wedi’n caru ni. Dw i’n hollol sicr fod dim byd yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth ei gariad e. Dydy marwolaeth ddim yn gallu, na’r un profiad gawn ni mewn bywyd chwaith. Dydy angylion ddim yn gallu, na phwerau ysbrydol drwg. Dim byd yn y presennol nac yn y dyfodol. Dim byd ym mhellteroedd eitha’r gofod nac yn nyfnderoedd y ddaear! Na, does dim yn y bydysawd yma greodd Duw yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yn ein Harglwydd ni, y Meseia Iesu!
Rhufeiniaid 8:35-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pwy a'n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? Ai gorthrymder, neu ing, neu erlid, neu newyn, neu noethni, neu berygl, neu gleddyf? Hyn yn wir yw ein rhan, fel y mae'n ysgrifenedig: “Er dy fwyn di fe'n rhoddir i farwolaeth drwy'r dydd, fe'n cyfrifir fel defaid i'w lladd.” Ond yn y pethau hyn i gyd y mae gennym fuddugoliaeth lwyr trwy'r hwn a'n carodd ni. Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na'r presennol na'r dyfodol, na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Rhufeiniaid 8:35-39 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? ai gorthrymder, neu ing, neu ymlid, neu newyn, neu noethni, neu enbydrwydd, neu gleddyf? Megis y mae yn ysgrifenedig, Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hyd y dydd; cyfrifwyd ni fel defaid i’r lladdfa. Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy’r hwn a’n carodd ni. Canys y mae’n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.