Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 8:3-39

Rhufeiniaid 8:3-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr hyn oedd y tu hwnt i allu'r Gyfraith, yn ei gwendid dan gyfyngiadau'r cnawd, y mae Duw wedi ei gyflawni. Wrth anfon ei Fab ei hun, mewn ffurf debyg i'n cnawd pechadurus ni, i ddelio â phechod, y mae wedi collfarnu pechod yn y cnawd. Gwnaeth hyn er mwyn i ofynion cyfiawn y Gyfraith gael eu cyflawni ynom ni, sy'n byw, nid ar wastad y cnawd, ond ar wastad yr Ysbryd. Oherwydd y sawl sydd â'u bodolaeth ar wastad y cnawd, ar bethau'r cnawd y mae eu bryd; ond y sawl sydd ar wastad yr Ysbryd, ar bethau'r Ysbryd y mae eu bryd. Yn wir, y mae bod â'n bryd ar y cnawd yn farwolaeth, ond y mae bod â'n bryd ar yr Ysbryd yn fywyd a heddwch. Oherwydd y mae bod â'n bryd ar y cnawd yn elyniaeth tuag at Dduw; nid yw hynny, ac ni all fod, yn ddarostyngiad i Gyfraith Duw. Ni all y sawl sy'n byw ym myd y cnawd foddhau Duw. Ond nid ym myd y cnawd yr ydych chwi, ond yn yr Ysbryd, gan fod Ysbryd Duw yn cartrefu ynoch chwi. Pwy bynnag sydd heb Ysbryd Crist, nid eiddo Crist ydyw. Ond os yw Crist ynoch chwi, y mae'r corff yn farw o achos pechod, ond y mae'r Ysbryd yn fywyd ichwi o achos eich cyfiawnhad. Os yw Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu oddi wrth y meirw yn cartrefu ynoch, bydd yr hwn a gyfododd Grist oddi wrth y meirw yn rhoi bywyd newydd hefyd i'ch cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd, sy'n ymgartrefu ynoch chwi. Am hynny, gyfeillion, yr ydym dan rwymedigaeth, ond nid i'r cnawd, i fyw ar wastad y cnawd. Oherwydd, os ar wastad y cnawd yr ydych yn byw, yr ydych yn sicr o farw; ond os ydych, trwy'r Ysbryd, yn rhoi arferion drwg y corff i farwolaeth, byw fyddwch. Y mae pawb sy'n cael eu harwain gan Ysbryd Duw yn blant Duw. Oherwydd nid ysbryd caethiwed sydd unwaith eto'n peri ofn yr ydych wedi ei dderbyn, ond Ysbryd mabwysiad, yr ydym trwyddo yn llefain, “Abba! Dad!” Y mae'r Ysbryd ei hun yn cyd-dystiolaethu â'n hysbryd ni, ein bod yn blant i Dduw. Ac os plant, etifeddion hefyd, etifeddion Duw a chydetifeddion â Christ, os yn wir yr ydym yn cyfranogi o'i ddioddefaint ef er mwyn cyfranogi o'i ogoniant hefyd. Yr wyf fi'n cyfrif nad yw dioddefiadau'r presennol i'w cymharu â'r gogoniant sydd ar gael ei ddatguddio i ni. Yn wir, y mae'r greadigaeth yn disgwyl yn daer am i blant Duw gael eu datguddio. Oherwydd darostyngwyd y greadigaeth i oferedd, nid o'i dewis ei hun, ond trwy'r hwn a'i darostyngodd, yn y gobaith y câi'r greadigaeth hithau ei rhyddhau o gaethiwed a llygredigaeth, a'i dwyn i ryddid a gogoniant plant Duw. Oherwydd fe wyddom fod yr holl greadigaeth yn ochneidio, ac mewn gwewyr drwyddi, hyd heddiw. Ac nid y greadigaeth yn unig, ond nyni sydd â blaenffrwyth yr Ysbryd gennym, yr ydym ninnau'n ochneidio ynom ein hunain wrth ddisgwyl ein mabwysiad yn blant Duw, sef rhyddhad ein corff o gaethiwed. Oherwydd yn y gobaith hwn y cawsom ein hachub. Ond nid gobaith mo'r gobaith sy'n gweld. Pwy sy'n gobeithio am yr hyn y mae'n ei weld? Yr hyn nad ydym yn ei weld yw gwrthrych gobaith, ac felly yr ydym yn dal i aros amdano mewn amynedd. Yn yr un modd, y mae'r Ysbryd yn ein cynorthwyo yn ein gwendid. Oherwydd ni wyddom ni sut y dylem weddïo, ond y mae'r Ysbryd ei hun yn ymbil trosom ag ocheneidiau y tu hwnt i eiriau, ac y mae Duw, sy'n chwilio calonnau dynol, yn deall bwriad yr Ysbryd, mai ymbil y mae tros y saint yn ôl ewyllys Duw. Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda'r rhai sy'n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad. Oherwydd, cyn eu bod hwy, fe'u hadnabu, a'u rhagordeinio i fod yn unffurf ac unwedd â'i Fab, fel mai cyntafanedig fyddai ef ymhlith pobl lawer. A'r rhai a ragordeiniodd, fe'u galwodd hefyd; a'r rhai a alwodd, fe'u cyfiawnhaodd hefyd; a'r rhai a gyfiawnhaodd, fe'u gogoneddodd hefyd. O ystyried hyn oll, beth a ddywedwn? Os yw Duw trosom, pwy sydd yn ein herbyn? Nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll. Ac os rhoddodd ei Fab, sut y gall beidio â rhoi pob peth i ni gydag ef? Pwy sydd i ddwyn cyhuddiad yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw'r un sy'n dyfarnu'n gyfiawn. Pwy sydd yn ein collfarnu? Crist Iesu yw'r un a fu farw, yn hytrach a gyfodwyd, yr un hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr un sydd yn ymbil trosom. Pwy a'n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? Ai gorthrymder, neu ing, neu erlid, neu newyn, neu noethni, neu berygl, neu gleddyf? Hyn yn wir yw ein rhan, fel y mae'n ysgrifenedig: “Er dy fwyn di fe'n rhoddir i farwolaeth drwy'r dydd, fe'n cyfrifir fel defaid i'w lladd.” Ond yn y pethau hyn i gyd y mae gennym fuddugoliaeth lwyr trwy'r hwn a'n carodd ni. Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na'r presennol na'r dyfodol, na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.

Rhufeiniaid 8:3-39 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Doedd y Gyfraith Iddewig ddim yn gallu gwneud hynny, am fod y natur ddynol mor wan. Ond dyma Duw yn anfon ei Fab ei hun i fod yn berson dynol yr un fath â ni bechaduriaid, er mwyn iddo orchfygu’r pechod oedd ar waith yn y natur ddynol drwy roi ei fywyd yn aberth dros bechod. Gwnaeth hyn er mwyn i ni wneud beth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn. Dŷn ni bellach yn byw fel mae’r Ysbryd Glân eisiau, dim fel mae ein natur bechadurus eisiau. Mae’r rhai sy’n cael eu rheoli gan y natur bechadurus yn byw i’r hunan, ond mae’r rhai sydd dan reolaeth yr Ysbryd Glân yn byw i wneud beth mae’r Ysbryd eisiau. Os mai’r hunan sy’n eich rheoli chi, byddwch chi’n marw. Ond os ydy’r Ysbryd Glân yn eich rheoli chi, mae gynnoch chi fywyd a heddwch perffaith gyda Duw. Mae’r natur bechadurus yn ymladd yn erbyn Duw. Does ganddi ddim eisiau gwneud beth mae Cyfraith Duw’n ei ofyn – yn wir, dydy hi ddim yn gallu! A dydy’r rhai sy’n cael eu rheoli gan y natur bechadurus ddim yn gallu plesio Duw. Ond dim yr hunan sy’n eich rheoli chi. Mae Ysbryd Duw wedi dod i fyw ynoch chi, felly yr Ysbryd sy’n eich rheoli chi. Os ydy Ysbryd y Meseia ddim wedi cael gafael ynoch chi, dych chi ddim yn bobl y Meseia o gwbl. Ond os ydy’r Meseia ynoch chi, er bod y corff yn mynd i farw o achos pechod, mae’r Ysbryd Glân yn rhoi bywyd tragwyddol i chi, am fod gynnoch chi berthynas iawn gyda Duw. Ac os ydy Ysbryd yr Un gododd Iesu yn ôl yn fyw wedi dod i fyw ynoch chi, bydd e’n rhoi bywyd newydd i’ch cyrff marwol chi hefyd. Dyna mae’r Ysbryd Glân sydd wedi dod i fyw ynoch chi yn ei wneud. Felly, frodyr a chwiorydd, does dim rhaid i ni bellach fyw fel mae’r natur bechadurus eisiau. Mae gwneud hynny yn siŵr o arwain i farwolaeth. Ond, gyda nerth yr Ysbryd Glân, os gwnawn ni wrthod gwneud beth mae’r hunan eisiau, byddwn yn cael bywyd. Mae pawb sydd a’u bywydau’n cael eu rheoli gan Ysbryd Duw yn cael bod yn blant i Dduw. Dydy’r Ysbryd Glân dŷn ni wedi’i dderbyn ddim yn ein gwneud yn gaethweision ofnus unwaith eto! Mae’n ein mabwysiadu ni yn blant i Dduw, a gallwn weiddi arno’n llawen, “ Abba ! Dad!” Ydy, mae’r Ysbryd yn dangos yn glir i ni ein bod ni’n blant i Dduw. Ac os ydyn ni’n blant iddo, byddwn ninnau hefyd yn derbyn yr holl bethau da mae’n ei roi i’w Fab, y Meseia. Ond cofiwch wedyn, os ydyn ni’n cael rhannu yn ei ysblander mae’n rhaid i ni fod yn barod i ddioddef gydag e hefyd. Dw i’n reit siŵr bod beth dŷn ni’n ei ddioddef ar hyn o bryd yn ddim o’i gymharu â’r ysblander gwych fyddwn ni’n ei brofi maes o law. Ydy, mae’r greadigaeth i gyd yn edrych ymlaen yn frwd at y dydd pan fydd Duw yn dangos pwy sy’n blant iddo go iawn. Roedd y greadigaeth wedi cael ei chondemnio i wagedd (dim ei dewis hi oedd hynny – cafodd ei orfodi arni). Ond mae gobaith i edrych ymlaen ato: mae’r greadigaeth hefyd yn mynd i gael ei gollwng yn rhydd! Fydd hi ddim yn gaeth i lygredd ddim mwy. Bydd yn rhannu’r rhyddid bendigedig fydd Duw’n ei roi i’w blant. Dŷn ni’n gwybod fod y greadigaeth gyfan yn griddfan fel gwraig sydd mewn poen wrth eni plentyn. Ac nid dim ond y greadigaeth sy’n griddfan, ond ni hefyd sy’n Gristnogion, ac wedi derbyn yr Ysbryd Glân fel rhagflas o beth sydd i ddod. Dŷn ni hefyd yn griddfan o’n mewn wrth ddisgwyl i’r diwrnod ddod pan fydd Duw yn ein mabwysiadu ni ac y bydd ein corff yn cael ei ollwng yn rhydd! Am ein bod wedi’n hachub gallwn edrych ymlaen at hyn yn hyderus. Does neb yn edrych ymlaen at rywbeth sydd ganddo’n barod! Ond wrth edrych ymlaen at beth sydd ddim yma eto, rhaid disgwyl yn amyneddgar amdano. Ac mae’r Ysbryd yn ein helpu ni hefyd yn ein cyflwr gwan presennol. Wyddon ni ddim yn iawn beth i’w weddïo, ond mae’r Ysbryd ei hun yn gofyn ar ein rhan ni. Mae yntau’n griddfan – dydy geiriau ddim yn ddigon. Ond mae Duw yn gwybod beth sydd yng nghalon pawb, ac mae’n gwybod beth ydy bwriad yr Ysbryd. Mae’r Ysbryd yn gofyn i Dduw am y pethau mae Duw yn awyddus i’w rhoi i’w blant. Dŷn ni’n gwybod fod Duw’n trefnu popeth er lles y rhai sy’n ei garu – sef y rhai mae wedi’u galw i gyflawni ei fwriadau. Roedd yn gwybod pwy fyddai’n bobl iddo, ac roedd wedi’u dewis ymlaen llaw i fod yn debyg i’w Fab. (Y Mab, sef y Meseia Iesu, ydy’r plentyn hynaf, ac mae ganddo lawer iawn o frodyr a chwiorydd.) Ar ôl eu dewis ymlaen llaw, galwodd nhw ato’i hun. Mae’n eu derbyn nhw i berthynas iawn ag e’i hun, ac wedyn yn rhannu ei ysblander gyda nhw. Felly, beth mae hyn yn ei olygu? Os ydy Duw ar ein hochr ni, sdim ots pwy sy’n ein herbyn ni! Wnaeth Duw ddim hyd yn oed arbed ei Fab ei hun! Rhoddodd e’n aberth i farw yn ein lle ni i gyd. Felly oes yna unrhyw beth dydy e ddim yn fodlon ei roi i ni? Pwy sy’n mynd i gyhuddo’r bobl mae Duw wedi’u dewis iddo’i hun? Wnaiff Duw ddim! Duw ydy’r un sy’n eu gwneud nhw’n ddieuog yn ei olwg! Felly pwy sy’n mynd i’n condemnio ni? Wnaiff y Meseia Iesu ddim! Fe ydy’r un gafodd ei ladd a’i godi yn ôl yn fyw! A bellach mae’n eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw, yn pledio ar ein rhan ni. Oes yna rywbeth sy’n gallu’n gwahanu ni oddi wrth gariad y Meseia? Nac oes, dim byd! Dydy poen ddim yn gallu, na dioddefaint, cael ein herlid, newyn na noethni, peryglon na hyd yn oed cael ein lladd! Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “O’th achos di dŷn ni’n wynebu marwolaeth drwy’r amser; Dŷn ni fel defaid ar eu ffordd i’r lladd-dy.” Ond dŷn ni’n concro’r cwbl i gyd, a mwy, am fod y Meseia wedi’n caru ni. Dw i’n hollol sicr fod dim byd yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth ei gariad e. Dydy marwolaeth ddim yn gallu, na’r un profiad gawn ni mewn bywyd chwaith. Dydy angylion ddim yn gallu, na phwerau ysbrydol drwg. Dim byd yn y presennol nac yn y dyfodol. Dim byd ym mhellteroedd eitha’r gofod nac yn nyfnderoedd y ddaear! Na, does dim yn y bydysawd yma greodd Duw yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yn ein Harglwydd ni, y Meseia Iesu!

Rhufeiniaid 8:3-39 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Canys yr hyn ni allai’r ddeddf, oherwydd ei bod yn wan trwy y cnawd, Duw a ddanfonodd ei Fab ei hun yng nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod a gondemniodd bechod yn y cnawd: Fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd. Canys y rhai sydd yn ôl y cnawd, am bethau’r cnawd y maent yn synio: eithr y rhai sydd yn ôl yr Ysbryd, am bethau’r Ysbryd. Canys syniad y cnawd, marwolaeth yw; a syniad yr ysbryd, bywyd a thangnefedd yw: Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw: canys nid yw ddarostyngedig i ddeddf Duw; oblegid nis gall chwaith. A’r rhai sydd yn y cnawd, ni allant ryngu bodd Duw. Eithr chwychwi nid ydych yn y cnawd, ond yn yr Ysbryd, od yw Ysbryd Duw yn trigo ynoch. Ac od oes neb heb Ysbryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef. Ac os yw Crist ynoch, y mae’r corff yn farw, oherwydd pechod; eithr yr Ysbryd yn fywyd, oherwydd cyfiawnder. Ac os Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch; yr hwn a gyfododd Grist o feirw a fywiocâ hefyd eich cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd yr hwn sydd yn trigo ynoch. Am hynny, frodyr, dyledwyr ydym, nid i’r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd. Canys os byw yr ydych yn ôl y cnawd, meirw fyddwch: eithr os ydych yn marweiddio gweithredoedd y corff trwy’r Ysbryd, byw fyddwch. Canys y sawl a arweinir gan Ysbryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw. Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed drachefn i beri ofn; eithr derbyniasoch Ysbryd mabwysiad, trwy’r hwn yr ydym yn llefain, Abba, Dad. Y mae’r Ysbryd hwn yn cyd-dystiolaethu â’n hysbryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw: Ac os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd-etifeddion â Christ: os ydym yn cyd-ddioddef gydag ef, fel y’n cydogonedder hefyd. Oblegid yr ydwyf yn cyfrif, nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i’r gogoniant a ddatguddir i ni. Canys awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw. Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd; nid o’i fodd, eithr oblegid yr hwn a’i darostyngodd: Dan obaith y rhyddheir y creadur yntau hefyd, o gaethiwed llygredigaeth, i ryddid gogoniant plant Duw. Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cydocheneidio, ac yn cydofidio hyd y pryd hwn. Ac nid yn unig y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd: yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corff. Canys trwy obaith y’n hiachawyd. Eithr y gobaith a welir, nid yw obaith: oblegid y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio? Ond os ydym ni yn gobeithio’r hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano. A’r un ffunud y mae’r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddïom, megis y dylem: eithr y mae’r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy. A’r hwn sydd yn chwilio’r calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint. Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sydd yn caru Duw; sef i’r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef. Oblegid y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd i fod yn un ffurf â delw ei Fab ef; fel y byddai efe yn gyntaf-anedig ymhlith brodyr lawer. A’r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a’r rhai a alwodd efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe; a’r rhai a gyfiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe. Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw trosom, pwy a all fod i’n herbyn? Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a’i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth; Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw’r hwn sydd yn cyfiawnhau: Pwy yw’r hwn sydd yn damnio? Crist yw’r hwn a fu farw, ie, yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd hefyd; yr hwn hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni. Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? ai gorthrymder, neu ing, neu ymlid, neu newyn, neu noethni, neu enbydrwydd, neu gleddyf? Megis y mae yn ysgrifenedig, Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hyd y dydd; cyfrifwyd ni fel defaid i’r lladdfa. Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy’r hwn a’n carodd ni. Canys y mae’n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.