Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 8:29-39

Rhufeiniaid 8:29-39 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd yn gwybod pwy fyddai’n bobl iddo, ac roedd wedi’u dewis ymlaen llaw i fod yn debyg i’w Fab. (Y Mab, sef y Meseia Iesu, ydy’r plentyn hynaf, ac mae ganddo lawer iawn o frodyr a chwiorydd.) Ar ôl eu dewis ymlaen llaw, galwodd nhw ato’i hun. Mae’n eu derbyn nhw i berthynas iawn ag e’i hun, ac wedyn yn rhannu ei ysblander gyda nhw. Felly, beth mae hyn yn ei olygu? Os ydy Duw ar ein hochr ni, sdim ots pwy sy’n ein herbyn ni! Wnaeth Duw ddim hyd yn oed arbed ei Fab ei hun! Rhoddodd e’n aberth i farw yn ein lle ni i gyd. Felly oes yna unrhyw beth dydy e ddim yn fodlon ei roi i ni? Pwy sy’n mynd i gyhuddo’r bobl mae Duw wedi’u dewis iddo’i hun? Wnaiff Duw ddim! Duw ydy’r un sy’n eu gwneud nhw’n ddieuog yn ei olwg! Felly pwy sy’n mynd i’n condemnio ni? Wnaiff y Meseia Iesu ddim! Fe ydy’r un gafodd ei ladd a’i godi yn ôl yn fyw! A bellach mae’n eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw, yn pledio ar ein rhan ni. Oes yna rywbeth sy’n gallu’n gwahanu ni oddi wrth gariad y Meseia? Nac oes, dim byd! Dydy poen ddim yn gallu, na dioddefaint, cael ein herlid, newyn na noethni, peryglon na hyd yn oed cael ein lladd! Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “O’th achos di dŷn ni’n wynebu marwolaeth drwy’r amser; Dŷn ni fel defaid ar eu ffordd i’r lladd-dy.” Ond dŷn ni’n concro’r cwbl i gyd, a mwy, am fod y Meseia wedi’n caru ni. Dw i’n hollol sicr fod dim byd yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth ei gariad e. Dydy marwolaeth ddim yn gallu, na’r un profiad gawn ni mewn bywyd chwaith. Dydy angylion ddim yn gallu, na phwerau ysbrydol drwg. Dim byd yn y presennol nac yn y dyfodol. Dim byd ym mhellteroedd eitha’r gofod nac yn nyfnderoedd y ddaear! Na, does dim yn y bydysawd yma greodd Duw yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yn ein Harglwydd ni, y Meseia Iesu!

Rhufeiniaid 8:29-39 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Oblegid y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd i fod yn un ffurf â delw ei Fab ef; fel y byddai efe yn gyntaf-anedig ymhlith brodyr lawer. A’r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a’r rhai a alwodd efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe; a’r rhai a gyfiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe. Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw trosom, pwy a all fod i’n herbyn? Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a’i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth; Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw’r hwn sydd yn cyfiawnhau: Pwy yw’r hwn sydd yn damnio? Crist yw’r hwn a fu farw, ie, yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd hefyd; yr hwn hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni. Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? ai gorthrymder, neu ing, neu ymlid, neu newyn, neu noethni, neu enbydrwydd, neu gleddyf? Megis y mae yn ysgrifenedig, Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hyd y dydd; cyfrifwyd ni fel defaid i’r lladdfa. Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy’r hwn a’n carodd ni. Canys y mae’n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.