Rhufeiniaid 8:25-28
Rhufeiniaid 8:25-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond wrth edrych ymlaen at beth sydd ddim yma eto, rhaid disgwyl yn amyneddgar amdano. Ac mae’r Ysbryd yn ein helpu ni hefyd yn ein cyflwr gwan presennol. Wyddon ni ddim yn iawn beth i’w weddïo, ond mae’r Ysbryd ei hun yn gofyn ar ein rhan ni. Mae yntau’n griddfan – dydy geiriau ddim yn ddigon. Ond mae Duw yn gwybod beth sydd yng nghalon pawb, ac mae’n gwybod beth ydy bwriad yr Ysbryd. Mae’r Ysbryd yn gofyn i Dduw am y pethau mae Duw yn awyddus i’w rhoi i’w blant. Dŷn ni’n gwybod fod Duw’n trefnu popeth er lles y rhai sy’n ei garu – sef y rhai mae wedi’u galw i gyflawni ei fwriadau.
Rhufeiniaid 8:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr hyn nad ydym yn ei weld yw gwrthrych gobaith, ac felly yr ydym yn dal i aros amdano mewn amynedd. Yn yr un modd, y mae'r Ysbryd yn ein cynorthwyo yn ein gwendid. Oherwydd ni wyddom ni sut y dylem weddïo, ond y mae'r Ysbryd ei hun yn ymbil trosom ag ocheneidiau y tu hwnt i eiriau, ac y mae Duw, sy'n chwilio calonnau dynol, yn deall bwriad yr Ysbryd, mai ymbil y mae tros y saint yn ôl ewyllys Duw. Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda'r rhai sy'n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad.
Rhufeiniaid 8:25-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond os ydym ni yn gobeithio’r hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano. A’r un ffunud y mae’r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddïom, megis y dylem: eithr y mae’r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy. A’r hwn sydd yn chwilio’r calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint. Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sydd yn caru Duw; sef i’r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef.